Pam, Arglwydd… ?

Diwrnod arall yn y gwaith i gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

Beth wnaeth i mi ddilyn y ffordd hon, tybed?

Efallai mai’r frechdan ar sedd y teithiwr oedd yn gyfrifol, oherwydd roedd hi newydd gychwyn sgwrsio â fy stumog.   Ond fe wnaeth rhywbeth arall wneud i mi adael yr A487 a throi i’r ffordd gul i Gwm Pennant, wrth i mi ddychwelyd o swyddfeydd y Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth.  Parciais y car, stopiais y peiriant a diffoddais y radio.  Gadewais y car i werthfawrogi’r heulwen a Chwm Pennant.   Roeddwn i wedi treulio ychydig oriau mewn byd arall ac roeddwn i’n awyddus i ddychwelyd i’r byd sy’n gyfarwydd ac yn annwyl i mi.

Roedd yr adar yn dawel, neu yn rhywle arall, a’u gwaith eisoes wedi’i wneud yr haf hwn.   Brefai’r defaid heb falio yn ystod y cyfnod hwn o wres rhwng y tymhorau.  Tractor yn y pellter oedd yr unig awgrym o ddiwydiant.

Beth sydd ar gael yn y llecyn tawel hwn?

Afon sydd, yn ystod y cyfnod sych hwn, yn casglu rhywfaint o ddŵr clir o gefnau Moel Hebog a chrib Nantlle.   Ceir maes gwersylla a chapel, ac arwydd wedi’i beintio yn cynnig Mêl Mynydd i’n denu.   O ystyried safonau’r oes fodern, saif ffermydd gwasgaredig yn ysgafn ar y tir; dyma lecyn ble mae’r coed yn dal i wybod sut i blannu eu hunain a ble mae blodau gwyllt yn llenwi’r bylchau fel pe baent yn perthyn yno.  Mae drws yr eglwys ar glo, a’r ffenestri lliw wedi’u cuddio’n rhannol gan y rhwyllau rhydlyd ac mae glaswellt y fynwent wedi’i dorri’n fras.   Mae’r beddau yn ailadrodd enwau nifer o ffermdai sydd â gwreiddiau dwfn a’r teuluoedd oedd yn rhan ohonynt yn ystod blynyddoedd da a gwael.  Mae’r enwau wedi cael eu cerfio gan wahanol ddwylo dros amser, ond gan ddefnyddio’r un llechfaen ar y cyfan.   Mae’r claddedigaethau diweddaraf – digwyddodd y diwethaf oddeutu 30 mlynedd yn ôl – yn adlewyrchu newid, ac maent yn cynnwys marmor disglair estron.  Mae rhai o’r cerrig yn pwyso yn erbyn tocynnau morgrug sydd wedi caledu yn yr heulwen, sydd fel pe baent yn eu cynnal, ac yn gyd-gofadeiliau i genedlaethau o weithwyr.

Pam oeddwn i yno?  Roeddwn i wedi treulio’r ychydig oriau diwethaf mewn Sesiynau Gwrandawiadau, y cam olaf yn y gwaith o adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri.   Yn ystod rhai rhannau o’r gwrandawiad tri diwrnod, Cymdeithas Eryri oedd yr unig gynrychiolydd oedd yn bresennol – rhywbeth sy’n ein hatgoffa o’r gwaith hanfodol rydym ni’n dal i’w gyflawni.   Yn wir, roedd y Gymdeithas wedi cyfranogi ers y dechrau cyntaf, gan ysgrifennu sylwadau manwl a dadlau dros y polisïau amddiffynnol sy’n hanfodol er budd lles tymor hir y Parc Cenedlaethol yn ein barn ni.  Bellach, â phapurau a nodiadau o fy mlaen i, fy ngwaith i oedd sicrhau fod y pwyntiau hynny wedi cael eu mynegi’n glir, a chodi llais dros gadwraeth ar yr adegau priodol.

Ond roedd agenda heddiw yn wahanol, yn cwmpasu’r Parthau Menter yn Llanbedr a Thrawsfynydd.  Fe wnaeth y testun hwn ddenu’r nifer fwyaf o gyfranogwyr, ac yn ystod y sesiwn hwn, roeddwn i’n eistedd wrth ymyl rhes o ddynion, pob un yn gwisgo siwt dywyll. Roedd ganddynt gyflwyniad sicr, dadleuon caboledig ac adroddiadau oedd wedi’u hargraffu ar bapur oedd mor glaerwyn, roedd yn gwneud i’r cyfan ymddangos mor rhesymol.   Rhesymol i ‘wneud pethau’n fwy eglur’ i ddatblygwyr yma ac acw.   Rhesymol i fod ‘ychydig yn fwy hyblyg’ ynghylch datblygiad mawr mewn Parc Cenedlaethol.  Rhesymol fod yn rhaid i bolisïau sy’n cynnig ychydig bach o amddiffyniad i dirweddau a natur fod yn ‘gytbwys’ er mwyn sicrhau na fyddant yn rhwystrau.  Mae’n debyg eu bod wedi hen gychwyn ar eu taith yn ôl i’w hymgynghoriaethau yng Nghaerdydd erbyn hyn.

Mae’n debyg y gallai morgrugyn deimlo fel hyn, yn gorfod cynnal llechfaen.   Fe wnes i fy ngorau glas i ddadlau’n eglur dros yr angen am safbwynt tymor hir.   Bydd technolegau yn mynd ac yn dod.   Bydd datblygiadau yn mynd ac yn dod.  Yn Eryri, agorwyd y chwareli ac yna fe wnaethant gau, yn union fel yr un ym mlaen Cwm Pennant.  Fe wnaeth y maes awyr yn Llanbedr gau, yn union fel yr atomfa yn Nhrawsfynydd; caewyd honno wedi dim ond 25 mlynedd yn gweithredu, gan adael gweddillion yn y llyn nad oes neb yn dymuno eu trafod.   Efallai y gwnaiff ‘maes awyrennau gofod’ – beth bynnag yw ystyr hynny – a thechnoleg dronau ymddangos yn Llanbedr, ond ni wnânt bara fel y mynyddoedd, y coedydd a’r afonydd.  Bydd yr un peth yn wir yn achos ‘adweithyddion modiwlaidd bychan’ – technoleg sydd ddim hyn yn oed yn bodoli ar hyn o bryd, ond sydd eisoes yn cael ei gynnig ar gyfer Trawsfynydd.   Mynd a dod fydd hanes pob un ohonynt.   Yr hyn sy’n bwysig, heb os, yw’r hyn sydd ar ôl.   A bydd yr hyn sydd ar ôl yn dibynnu, yn y Parc Cenedlaethol hwn, ar amddiffyniadau cyson sy’n edrych i’r dyfodol ac yn holi beth hoffem ni ei weld yno.   Mae’r amddiffyniadau hyn yn deillio o adnoddau megis polisïau cynllunio; y geiriau hyn, er eu bod yn ymddangos yn wan ar brydiau, yw’r unig amddiffyniadau sy’n bodoli.

Nid yw’n hardd ceisio gwrthbwyso’r sail resymegol economaidd ddiddiwedd, â’r ffaith fod yr holl adnoddau yn golygu mai siawns wael sydd gan gadwraeth o lwyddo yn erbyn hynny.  Dyna pam oeddwn i’n teimlo’r awydd i fwyta fy nghinio yn yr heulwen yn y cwm hyfryd hwn.

Yn isel rhwng ei glannau, nid oedd Afon Dwyfor yn llawer mwy na nant, yn llifo’n araf o dan heulwen drymaidd mis Gorffennaf.   Ond yn sydyn, mae’n ganolbwynt i bethau.  Dyma weision y neidr – hynafol ond yn bodoli nawr, fel y dirwedd hon.   Dau fath cyferbyniol, yr Eurdorchog a’r Forwyn Dywyll, wedi’u denu gan yr haul, mae’r ysglyfaethwyr bychan hyn yn patrolio’r ddyfrffordd.  Mae’r gwenyn segur mwy yn meddiannu’r awyrle yn ei lliwiau rhybuddio melyn a du.  Mae eu dull o hedfan yn gyhyrog ac yn uniongyrchol, mae mor bwerus, caiff pob tro ei orwneud ychydig, ac mae’n rhaid addasu fymryn i wneud iawn am hynny.  Yn y sianeli ymylol, mae’r Morwynion Tywyll yn dwyn eu cyrchoedd eu hunain gan hofran, â’u symudliw gwyrdd a gwyrddlas, a’u corffolaeth eiddil yn cuddio manwl gywirdeb mewn llefydd cyfyng.

Ar ôl cael fy rhyfeddu gan weision y neidr, fy mhuro gan sŵn y dŵr croyw, fy nghynhesu gan yr haul a bwyta fy nghinio, roeddwn i’n teimlo’n ddynol unwaith eto.   Diolch i Dduw am fannau digyffwrdd, eu hanesion dynol, a datblygiad diddiwedd natur a ganiateir ganddynt.

Os ydych chi’n holi pam, mae teitl y darn hwn yn adleisio llinellau hiraethlon olaf cerdd gan Eifion Wyn: ‘Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws, a bywyd hen fugail mor fyr?’

 

Comments are closed.