Eich cyfle chi i ddweud eich dweud ar Gynllun y Parc Cenedlaethol

Eich cyfle chi i ddweud eich dweud ar Gynllun y Parc Cenedlaethol

Mae Cymdeithas Eryri wedi chwarae rhan allweddol gyda datblygiad Cynllun Partneriaeth Eryri a fydd yn helpu i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Eryri.  Dyma eich cyfle chi – y bobl sy’n byw, sy’n gweithio ac sy’n chwarae yn y Parc Cenedlaethol – i ddweud eich dweud.

O’r 3ydd o Chwefror hyd Mawrth y 13eg bydd ymgynghoriad cyhoeddus terfynol ar agor ar gyfer Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol newydd o’r enw Cynllun Eryri. Mae’n amlinellu sut bydd pawb yn cydweithio er mwyn gwarchod y Parc a’r pethau sy’n ei wneud yn unigryw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – o’r gogledd lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr ger Penmaen-bach i lannau pentref Aberdyfi yn y de.

Mae Cynllun Eryri yn adlewyrchu newid sylweddol yn y ffordd yr aeth Awdurdod y Parc ati i greu cynllun ar gyfer rheoli Eryri. Datblygwyd y cynllun yng ngwir ysbryd partneriaeth. Rydym wedi gwrando’n ofalus ar syniadau, barn a heriau bobl sy’n byw ac yn gweithio yma, ac wedi archwilio anghenion ymwelwyr. Cydweithiwyd hefyd â sefydliadau sy’n gofalu am Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i ddatblygu’r Cynllun hwn. Rydym wedi cadw Rhinweddau Arbennig* Eryri wrth wraidd popeth a wnawn. Trwy weithio gyda’n gilydd, credwn y gallwn gyflawni pethau gwych.

Mae ein Cynllun Partneriaeth yn cynnwys cyfres o ddeilliannau a chamau gweithredu uchelgeisiol a gynlluniwyd er mwyn cadw Eryri’n eithriadol. Rydym yn paratoi ar gyfer realiti gwleidyddol ac amgylcheddol y dyfodol trwy brosiectau fel ystyried parthau ‘di-blastig’ o fewn y Parc Cenedlaethol; gweithio gyda busnesau lleol ar dwristiaeth gynaliadwy; adfer mawndiroedd er mwyn cynyddu ein storfeydd carbon a dathlu’r iaith Gymraeg a’n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.

Pan gaiff ei weithredu, bydd Cynllun Eryri yn cynorthwyo i gyflawni pwrpasau’r Parc Cenedlaethol ac i gyflawni nifer o amcanion polisi, nodau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau APCE;

“Dydyn ni ddim wedi cuddio rhag yr heriau – rydyn ni’n gwybod bod cyfnod anodd o’n blaenau. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod ein hasedau naturiol a diwylliannol a’n hamgylchedd yn cael gofal a’u gwella. Gallwn wneud yn siŵr bod Eryri’n darparu cyfoeth o gyfleoedd i ddysgu a darganfod wrth wella lles, a gallwn ymdrechu i sicrhau bod Eryri’n lle gwych i fyw, datblygu a gweithio ynddo. ”

O ddydd Llun 3 Chwefror byddwch yn gallu anfon eich barn ar y Cynllun Partneriaeth atom yma

 

Comments are closed.