Ein blwyddyn hyd yma …

Mae ein gwirfoddolwyr anhygoel wedi cael blwyddyn brysur hyd yma! Cynhaliwyd dros 40 o ddyddiau gwirfoddolwyr ers mis Ionawr 2019 ac mae gwirfoddolwyr wedi gweithio’r swm anhygoel o 1173 o oriau. Treuliwyd yr amser yma’n rheoli cynefinoedd, cynnal llwybrau, clirio rhywogaethau ymledol a hyd yn oed helpu i greu toiled compost!

Mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu at:

24 o ddyddiau rheoli cynefin yn cynnwys:

  • 7 diwrnod yn trwsio terfynau megis ffensys a chloddiau cerrig sych i gadw da byw yn eu lle.
  • 11 o ddyddiau plannu coed lle plannwyd dros 3000 o goed.
  • 6 diwrnod o gyflawni gorchwylion rheoli cynefin eraill fel clirio prysgwydd a thocio gwern er mwyn rheoli cynefinoedd coedlan a gwelltir.

6 o ddyddiau cynnal a chadw llwybrau lle cynhaliwyd 8.25 km o lwybrau. Mae gwirfoddolwyr wedi gweithio’n ddygn i glirio ffosydd, clirio llystyfiant ymledol a gosod arwyddion newydd i nodi llwybrau.

9 o ddyddiau rheoli rhywogaethau ymledol yn cynnwys:

  • 6 diwrnod o glirio Rhododendron lle cliriwyd 1.624 hectar. Digwyddodd llawer o’r gwaith hwn yn Nant Gwynant – yn cysylltu’n uniongyrchol â chynllun rheoli Rhododendron Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r project LIFE sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  • 3 diwrnod o glirio coed coniffer a bedw ymledol; dyma waith rheoli gwlyptir hanfodol gan fod y coed yma’n coloneiddio gwlyptiroedd yn sydyn, yn sugno dŵr ac, yn y pen draw, os na chân nhw eu rheoli, yn sychu ein gwlyptiroedd yn sylweddol. Mae gan hyn ganlyniadau difrifol i fioamrywiaeth, hidlo a storio dŵr a storio carbon.

Diolch enfawr i’n holl wirfoddolwyr. Chi sydd wedi cyflawni hyn, a heb eich gwaith chi ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl. Os hoffech wneud gwahaniaeth, cymryd rhan ymarferol a dysgu am Eryri, pam na wnewch chi gymryd rhan?

Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan allweddol o’n gwaith ac ymysg ein partneriaid ymarferol diweddar mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw a Chanolfan Gadwraeth Pensychnant.

.

 

Comments are closed.