Gwrthbwyso neu wyrddseboni?

Mae cyfnodau blaenorol o goedwigaeth planhigfeydd a gynlluniwyd ac a weithredwyd yn wael yn parhau i anharddu rhannau o Eryri ynghyd â rhannu eraill o Gymru. Wedi eu plannu gydag ungnwd trwchus o sbriws Sitca neu binwydd camfrig ymledol cyn cefnu arnyn nhw i raddau helaeth, y prif gnydau a gynaeafir ohonyn nhw ydy rhyddhad ar drethi ac ariannu cyhoeddus! Mae byd natur, tirlun, a threftadaeth ddiwylliannol leol wedi eu dinistrio o dan planhigfeydd o’r fath. Ambell dro mae eu cynnyrch mor wael nad yw’n werth eu cynaeafu yn economaidd na’n ymarferol.

Bellach mae sawl cwmni mawr yn ymddiddori mewn gwrthbwyso carbon ac rydym yn wynebu’r risg o roi cychwyn ar gylch arall o goedwigo diwydiannol.  Mae ffermwyr a chadwraethwyr yn bryderus, ynghyd â llawer o bobl sy’n dymuno i ddefnydd a rheolaeth tir fod yn fwy cynaliadwy, yn hytrach na llai.

Mae Cymdeithas Eryri yn annog trafodaeth gyhoeddus ar goed yn y tirlun. Mae angen i ni chwalu’r gwyrddseboni ar wrthbwyso carbon – ni allwn ddefnyddio plannu coed i gyfiawnhau busnes fel arfer ar gyfer sectorau masnachol carbon-dwys, nag ar gyfer ein dull o fyw ein hunain. Mae angen i ni hefyd symud y tu hwnt i’r sgwrs gadwraeth syml yn aml bod coed yn dda! Dydy gylfinirod, er enghraifft, ddim yn cytuno! Yn gryno, mae angen i ni fod yn strategol fel cenedl ynglŷn â lle rydym yn dymuno cael mwy o goed, llai o goed a choed wedi eu rheoli’n well.

Dyma gysylltiadau i rai erthyglau diweddar sy’n dyfynnu ein Cyfarwyddwr:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/61050054

https://newyddion.s4c.cymru/article/7141

Comments are closed.