
Disgrifiad Swydd: Prif Swyddog Cadwraeth
Oriau: 37.5 awr/wythnos (i’w drafod), parhaol. Mae angen rhywfaint o weithio ar y penwythnos.
Tâl cychwynnol: £25,942 pro rata
Lleoliad: Hybrid: Gweithio ledled Eryri, gyda rhywfaint o weithio o adref ag or swyddfa
Yn adrodd i: Rheolwr Rhaglen
Yn adrodd yn uniongyrchol: Hyfforddedigion y Gymdeithas
Dyddiad cau’r cais: 09:00 Dydd Llun 19 Awst 2024
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mercher 28 Awst 2024
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib a dim hwyrach na mis Hydref 2024
Cefndir Cymdeithas Eryri:
Mae Eryri yn ardal arbennig sy’n cynnal cynefinoedd a bywyd gwyllt sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. O ganlyniad i newid hinsawdd a’r argyfwng i fyd natur yn fyd-eang mae mwy o angen gwarchod Eryri nag erioed o’r blaen. Dyma ein nod – ni ydy’r elusen sy’n gweithio i warchod a chynnal Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein tîm ymroddedig o staff, ymddiriedolwyr, aelodau a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri a’i chynefinoedd a’i bywyd gwyllt yn mynd i fod yma am byth.
Mae ein gwaith cadwraeth ymarferol yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae arnom angen rhywun i ymuno â’n tîm i arwain a chydlynu ein rhaglen amrywiol yn y dyfodol. Rydym yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid ar orchwylion megis plannu coed, rheoli rhywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd i enwi ond ychydig. Rydym hefyd yn cydweithio mewn partneriaeth agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored ar ein rhaglen arloesol i wirfoddolwyr, Caru Eryri.
Mae arnom angen aelod newydd o’r tîm. Ydych chi’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a gwybodus gyda phrofiad o arolygu tîm a chydlynu ac arwain gwaith cadwraeth ymarferol? Os felly, yna efallai mai dyma’r swydd i chi.
Buddion o ganlyniad i weithio i ni:
- Rydym yn gyflogwr gwir gyflog byw
- Cyfraniad cyflogwr o 6% tuag at bensiwn
- Gwaith sy’n gytbwys â bywyd ac sy’n hyblyg ac ystwyth gyda diwylliant o ymddiriedaeth
- Cyfleoedd ar gyfer gweithio o gartref/o bell
- Cefnogi buddiant staff gydag aelodaeth a rhaglen gefnogaeth bersonol 360 wellbeing i holl aelodau o staff
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc (pro rata), yn codi wedi 5 mlynedd o wasanaeth
- Termau rhagorol ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac egwyl rhieni wedi ei rannu, yn unol â hyd gwasanaeth cymwys.
- Termau rhagorol ar gyfer tâl salwch (wedi i gyfnod prawf ddod i ben)
- Rydym yn annog ac yn cefnogi pob aelod o staff i archwilio cyfleoedd datblygu
Gwaith cadwraeth ymarferol a hyfforddi gyda gwirfoddolwyr:
- Arwain ar ddarparu rhaglen wirfoddoli ymarferol y Gymdeithas, yn cynnwys gwireddu allbynnau allweddol sy’n angenrheidiol i ateb ariannu grantiau allanol.
- Trefnu ac arwain dyddiau gwaith gwirfoddolwyr, yn cynnwys cydlynu staffio/arweinwyr, asesiadau risg, recriwtio gwirfoddolwyr, trefniadau ymarferol, cyhoeddusrwydd cyfleoedd a gwaith a gwblheir, cofnodi gweithgaredd gwirfoddolwyr ac adrodd ar y gwaith a gyflawnir.
- Arwain ar Iechyd a Diogelwch ar gyfer y rhaglen wirfoddoli ac, wedi hyfforddiant priodol, ar gyfer holl weithgareddau’r Gymdeithas; bod yn ymwybodol o arweiniad perthnasol, deddfwriaeth ac ymarfer gorau; cydlynu protocol Iechyd a Diogelwch (yn cynnwys Covid), cofnodi ac asesiadau risg.
- Gweithio i sicrhau bod holl brotocol gwarchod yn cael ei ddilyn.
- Hyfforddiant achrededig o fewn y Gymdeithas: wedi hyfforddiant digonol, byddwch yn cyfrannu i ddatblygiad unedau ac adnoddau newydd, yn trefnu ac yn arwain sesiynau hyfforddiant, rhoi asesiadau ar waith.
- Partneriaethau ymarferol: gweithio gyda’r Rheolwr Rhaglen a Chyfarwyddwr, datblygu rhaglenni gwaith tymor hir; adnabod a blaenoriaethu cyfleoedd gwaith ymarferol gyda phartneriaid, sicrhau cyfathrebu da, casglu adborth a rhoi gwelliant parhaol ar waith.
- Gweithio i gynyddu amrywiaeth ymysg y gwirfoddolwyr a gwella ansawdd profiadau gwirfoddolwyr.
- Cyfrannu i’r gwaith ymarferol yn Nhŷ Hyll.
Rheoli, arolygu a datblygu staff:
9. Gweithredu fel Rheolwr Llinell hyfforddedigion y Gymdeithas (mae dau ar hyn o bryd). Eu cefnogi, sicrhau bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu a gwireddu eu gwaith yn effeithiol a’u bod yn perfformio eu dyletswyddau yn foddhaol.
10. Cefnogi datblygiad staff cadwraeth, hyfforddedigion a’r rhai ar osodiadau profiad gwaith.
Cyfrifoldebau eraill:
11. Mewnbwn i fonitro a gwerthuso gwaith y Gymdeithas a, gyda staff eraill, datblygu dulliau effeithiol o adrodd ar effaith.
12. Cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau a gyda grwpiau, mewn partneriaethau ac yn y cyfryngau i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer ein gwaith.
13.Cynorthwyo mewn meysydd eraill o waith y Gymdeithas fel bo angen
Manylion y person:
Hanfodol
- Profiad o gynllunio, gweinyddu ac arwain gwaith cadwraeth ymarferol gyda gwirfoddolwyr
- Profiad o oruchwylio / arwain tîm
- Gwybodaeth ymarferol ac angerdd am Eryri a chadwraeth.
- Y gallu i fod yn hunan-ysgogol, trefnus a datrys problemau mewn sefyllfa waith ddeinamig
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Gallu defnyddio Word, Excel a Powerpoint, i ddiweddaru gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol.
- Gall y rôl hon gynnwys gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed ac oedolion y gellir eu hystyried yn agored i niwed neu mewn perygl. Bydd ar yr ymgeisydd llwyddiannus angen gwiriad DBS manylach boddhaol (a welir trwy danysgrifiad i’r Gwasanaeth Diweddaru neu drwy gais yn dilyn eich penodiad).
- Trwydded yrru gyfredol, a defnydd o gerbyd gydag yswiriant defnydd busnes – mae gwaith yn digwydd ar draws Eryri a bydd angen cludo offer llaw i’r safleoedd gwaith. Mae milltiroedd allan o’r swyddfa yn cael eu had-dalu.
Dymunol:
- Profiad o gyflwyno dysgu neu hyfforddiant achrededig
- Profiad o godi arian a recriwtio aelodau mewn sefydliad nid-er-elw
- Profiad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â Rory Francis director@snowdonia-society.org.uk.
Dylid anfon pob cais i info@snowdonia-society.org.uk erbyn 9 y bore ar ddydd Llun 19 Awst.
Sylwer mai dim ond ceisiadau wedi eu cwblhau wrth ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol allwn ni eu derbyn.
Rhan-ariennir y swydd hon gan Lywodraeth y DU, gyda chronfeydd a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.
