• Gostyngiadau i aelodau Cymdeithas Eryri

    A wyddoch chi fod aelodau Cymdeithas Eryri yn elwa o ostyngiadau hael gan rai o’n Haelodau Busnes? Ar wahân i’r 20% a gynigir yn Pot Mêl Tŷ Hyll a gan Cotswold Outdoor yn eu siopau ac ar-lein, mae aelodau Cymdeithas Eryri hefyd yn elwa o ostyngiadau ar lety a sesiynau hyfforddiant.

    Mwy
  • Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Ionawr

    Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr ar gyfer mis Ionawr. Yn cynnwys rhestr o ddigwyddiadau Ty Hyll.

    Mwy
  • Parciau Cenedlaethol yn cael eu cosbi’n llym gan Lywodraeth Cymru.

    Roedd eiriolwyr dros Barciau Cenedlaethol yn Lloegr yn dathlu bythefnos yn ôl pan gyhoeddodd y Canghellor gyllideb unradd ar gyfer Parciau Cenedlaethol. Ond mae’r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol; mae cyllidebau 2016/17 yn cadarnhau’r pryderon gwaethaf, ac mae Parciau Cenedlaethol yn wynebu toriadau gwerth 5.3%.

    Mwy
  • Aelodau busnes newydd yn cefnogi Eryri

    Croeso mawr i ein haelodau busnes newydd Swn-y-Dŵr a Superfix Supplements sy wedi dangos eu hymrwymiad i ddiogelu a gwella tirlun odigog Eryri, ei bioamrywiaeth a’i threftadaeth ddiwylliannol unigryw trwy ddod yn Aelodau Busnes o Gymdeithas Eryri.

    Mwy
  • Bore Coffi, Bethesda, 12 Rhagfyr

    Dewch yn llu i fwynhau cacennau cartref a peis mins, prynu cardiau Nadolig Cymdeithas Eryri ac ein Hadau er lles Gwenyn ar werth neu rhoi cynnig ar y tombola. Gorau oll, dewch i gynnig help llaw!

    Mwy
  • Adeiladu Waliau Sychion

    Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Rhagfyr

    Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr ar gyfer mis Rhagfyr. Yn cynnwys rhestr o ddigwyddiadau Ty Hyll.

    Mwy
  • Rhowch rywbeth yn ôl ar ddydd Mawrth ‘Rhoi’

    A ydych yn cael budd o olygfeydd gwych a gwylltineb Eryri? Beth am roi rhywbeth yn ôl drwy gyfrannu at Gymdeithas Eryri neu gymryd rhan yn ein dyddiau gwaith gwirfoddoli?

    Mwy
  • Mae Maria yn rhedeg 5k i warchod Eryri

    Mae Maria Jones wrthi’n hyfforddi ar gyfer ei her bersonol o redeg 5k.Gan obeithio codi £150, mae hi eisoes wedi mwy na dyblu ei tharged, gyda chyfanswm cyfredol o £320! Bydd yr arian a godir yn mynd at waith y Gymdeithas o ddiogelu a gwella Eryri. Rhowch hwb iddi gan ei noddi.

    Mwy
  • WEDI EI GYHOEDDI: Adolygiad o Lywodraethu o Dirweddau Dynodedig

    Mae’r argymhellion yn cynnwys ein pwyntiau allweddol Yn dilyn cyflwyniad o dystiolaeth ysgrifenedig i’r panel ar ddau gam yr adolygiad pwysig hwn, rydym yn falch o weld bod yr argymhellion yn cynnnwys pwyntiau allweddol a wnaed yn ein tystiolaeth (darllenwch ein hymateb), yn benodol, y dylai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gadw eu cyfrifoldebau cynllunio yn gyfan gwbl, ac nad […]

    Mwy
  • Atalwch argae Rhaeadr y Graig Lwyd

    **PWYSIG** Os ydych yn caru Eryri, ARWYDDWCH y deiseb hwn Mae Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun o dan fygythiad difrifol gan ddatblygiad hydro-electrig cwmni ynni mawr rhyngwladol, RWE. Mae RWE yn awyddus i argae afon Conwy er mwyn tynnu miliynau o fetrau ciwbig o ddŵr oddi allan o’r darn mwyaf dramatig o’r afon, am ddegawdau. Mae […]

    Mwy
  • Rhododendron: o safbwynt ecosystem

    Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn gweithio’n ddiflino ers blynyddoedd i frwydro Rhododendron ponticum yn Eryri, ac yn fwy penodol yn Nant Gwynant. Beth sydd mor ddrwg am y planhigyn hwn â’i flodau pinc prydferth? Beth yw effeithiau’r planhigyn ei hun, a’n hymdrechion i’w reoli?

    Mwy
  • A year in the life of the Snowdonia Ecosystem Project

    ***** Cymraeg i ddod *****   We presented this video update about the fantastic work of the Snowdonia Ecosystem Project’s volunteers at Saturday’s AGM​ (17th October 2015)​. If you missed it (or would like to watch it again) here it is!​ A big thank you to all our volunteers for all their fabulous work over […]

    Mwy
  • Cyfeiriannu yn y mynyddoedd: Sul 22 Tachwedd

    Llefydd ar gael.
    A pheidiwch ag angohofio’r digwyddiadau yn Tŷ Hyll, sy’n cynnwys Casgliad Sbwriel ar y llwybrau ger llaw, diwrnod Bywyd Gwyllt y Gaeaf a Diwrnod Gwaith yn y coetir.

    Mwy
  • Garlleg gwych Gareth yn ennill gwobr o £310 i Eryri

    Ennillwyd y 6ed Her Tyfu Garlleg Moriarty Thomas gan Dr Gareth Jones o Dregarth, a mae o wedi dewis Cymdeithas Eryri i dderbyn y wobr o £310. Mae’r her yn cael ei chynnal yn flynyddol yn y Douglas Arms, Bethesda, fel digwyddiad elusennol er cof am John Moriarty, a oedd yn fynyddwr brwd iawn.

    Mwy
  • Her Mynydd Fabian4 yn codi £1,667

    Diolch anferth i dîm Her Mynydd Dyffryn Conwy Fabian4 am drefnu digwyddiad gwych sy wedi codi dros £1,300 at waith Cymdeithas Eryri. Hefyd, cododd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold, £367 o noddion gyda ei dîm, yn gwneud cyfanswm o dros £1,667! Mae John yn ddiolchgar iawn i aelodau ei dîm, Andy Tickle (aelod Cymdeithas Eryri a Chyfarwyddwr Cyfeillion y […]

    Mwy
  • Rheoli’r Wyddfa – seminar

    Mae’n bleser gan Cymdeithas Eryri gefnogi’r fenter ardderchog hon. AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI : datganiad i’r wasg Rheoli’r Wyddfa Yn Llanberis, nos Lun Tachwedd 9fed, bydd wythnosau o ymgynghori ar ddyfodol yr Wyddfa yn cyrraedd ei uchafbwynt. Mewn seminar yng Ngwesty’r Fictoria yn Llanberis, nos Lun, Tachwedd 9fed am 18.30 o’r gloch, bydd dros 80 […]

    Mwy
  • Swydd Wag – Aelod – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Dyddiad cau 5ed Tachwedd. Mae’r Awdurdod fel arfer yn cynnal cyfarfodydd yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri. Manylion llawn Disgrifiad o’r swydd Beth fydd disgwyl i chi ei wneud? Mae aelodau’r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigolion ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweiniad effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, am bennu ei […]

    Mwy
  • Llais i ddyfodol yr Wyddfa

    Datganiad i’r wasg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Mewn cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr wythnosau nesaf fydd yn arwain at un gynhadledd fawr ym mis Tachwedd, bydd cyfle i drigolion a busnesau lleol fynegi barn ar faterion sy’n ymwneud â rheoli mynydd mwyaf eiconig Cymru, yr Wyddfa. Wrth i’r nifer o ymwelwyr i’r ardal […]

    Mwy
  • Snowdonia mountains

    Digwyddiadau’r gaeaf

    Mae ein digwyddiadur gaeaf wedi ei gyhoeddi â sylw ar fynyddoedd Eryri. Dyma gyfle i’w dringo, clirio sbwriel oddi arnynt, deall eu daeareg ac eu ecoleg rhostir a helpu i’w gwarchod.  Mae na gyfle i ddysgu eu mwynhau’n ddiogel ar ddiwrnod o hyfforddiant, Cyfeiriannu yn y Mynyddoedd,   dan arweiniad Alun Pugh, ar 22 Tachwedd. Croesewir aelodau a […]

    Mwy
  • Clawr cylchgrawn

    Cylchgrawn yr hydref

    Mae rhifyn hydref o ein cylchgrawn nawr ar gael, a thrafnidiaeth yn Eryri yw’r thema. Darllen y cylchgrawn ar-lein. Yn y Golygyddol medda John Harold, Cyfarwyddwr y Gymdeithas: “Hydref yn Eryri: coedydd sy’n cynnal ffyngau aeddfed, afonydd yn gorlifo yn dilyn cawodydd trymion, a dyddiau perffaith prin gydag awyr las trawiadol uwchben y bryniau. Mae […]

    Mwy