Mae dadl yn codi ledled Cymru am gynlluniau i godi cyswllt peilonau newydd o un pen o’r wlad i’r llall, a allai dorri trwy rai o dirweddau mwyaf trawiadol y wlad.
Cyhoeddodd y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) gynlluniau y llynedd i godi cyswllt tensiwn uchel newydd yr holl ffordd o Fangor yn y Gogledd i Abertawe yn y De. Roedd yn rhan o’u dogfen ymgynghori Beyond 2030. Mi allai’r cynlluniau olygu codi peilonau newydd ar draws Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a allai basio trwy Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, yn ogystal â Mynyddoedd Elenydd.
Nawr mae Cymdeithas Eryri, mewn cydweithrediad â Chynghrair Tirweddau Dynodedig Cymru, wedi lansio ymgyrch yn erbyn y cynlluniau hyn. Maent yn tynnu sylw at y ffaith bod Rheolau Holford y Grid Cenedlaethol ei hun yn dweud y dylai llinellau uwchben foltedd uchel newydd osgoi Parciau Cenedlaethol yn gyfan gwbl os yn bosibl.
Codwyd y mater yn y Senedd gan Mabon Ap Gwynfor, AS ar y 11 Mehefin. Fe wnaeth o grybwyll y Cyswllt arfaethedig rhwng Bangor ac Abertawe gan awgrymu y gellid defnyddio llwybr o gwmpas y glannau, a hynny oherwydd Rheolau Holford1. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, fod Llywodraeth Cymru o blaid tanddaearu peilonau newydd lle bo modd, gan ychwanegu ei bod wedi comisiynu Grŵp Cynghori Annibynnol i edrych ar seilwaith y grid a disgwylir iddo adrodd yn ôl erbyn diwedd y mis hwn.
Mae Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, yn esbonio’r ymgyrch: “Rydym yn gryf o blaid cynlluniau i ddad-garboneiddio’r grid, ond byddai codi peilonau newydd dros Gader Idris, y Rhinogydd, neu yn wir ar draws Mynyddoedd Elenydd yn weithred o fandaliaeth, gan ddifetha rhai o dirweddau mwyaf godidog Cymru. Mae gan y Grid Cenedlaethol bolisi, sef Reolau Holford, sy’n galw arnyn nhw i osgoi Parciau Cenedlaethol yn gyfan gwbl os yn bosibl. Rydym yn galw arnyn nhw i ddilyn y polisi hwn, trwy osod y llinell o amgylch glannau Cymru, yn amodol ar asesiad amgylcheddol boddhaol o’r effaith ar fywyd morol.
“Mae eu cynlluniau ar gyfer Beyond 2030 eisoes yn cynnwys nifer o gysylltiadau o dan y mor rhwng yr Alban a Chymru, yr Alban a Lloegr ac yn wir rhwng Lloegr a Lloegr. Mae hyn yn dangos bod cysylltiadau trydan o dan y mor yn ymarferol ac yn fforddiadwy a’u bod yn aml yn darparu’r opsiwn ymarferol gorau ar y cyfan. Os felly, pam na allant lwybro’r llinell hon o amgylch yr arfordir?”
Mae’r Athro Terry Marsden, Cadeirydd Cynghrair Tirweddau Dynodedig Cymru, yn ychwanegu: “Mae’r Gynghrair yn cefnogi polisi datgarboneiddio yng Nghymru, ond mae’n cydnabod bod hyn yn cyflwyno heriau a chyfleoedd sylweddol ar gyfer cynnal a chadw ein Tirweddau Dynodedig yn effeithiol. Rhaid sicrhau fod diogelu’r tirwedd yn mynd law yn llaw â datgarboneiddio gyda pholisïau a chamau gweithredu cydnaws. Rydym yn cefnogi gosod cyswllt ynni newydd angenrheidiol trwy ddyfroedd arfordirol, fel na fyddant yn peri perygl i’r cyhoedd a’r tirwedd.”
Gan weithio ar y cyd, mae’r Gynghrair wedi sefydlu gwefan i ganiatáu i aelodau’r cyhoedd gysylltu â’u Haelodau Senedd am hyn i awgrymu y dylid gosod y cyswllt o dan y môr yn hytrach nad dros y tir, yn amodol ar asesiad amgylcheddol boddhaol. Mae wyth aelod o’r Senedd eisoes wedi llofnodi Datganiad Barn i egluro eu cefnogaeth i’r syniad hwn.
Mae’r ymgyrch hon yn cael ei chynnal ar y cyd gan Gymdeithas Eryri, Cynghrair Tirweddau Dynodedig Cymru, Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, Cyfeillion Bannau Brycheiniog, Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cymdeithas Gŵyr a’r BMC.
I gymryd rhan a gofyn i’ch ASau gefnogi’r ymgyrch hon, cliciwn yma.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Mae Cymdeithas Eryri yn elusen gadwraeth sy’n seiliedig ar aelodau ac sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, cymunedau lleol, sefydliadau, busnesau ac unigolion i helpu i ofalu am Eryri. Ers 1967 mae Cymdeithas Eryri wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri wedi’i diogelu’n dda, yn cael ei rheoli’n dda a’i mwynhau gan bawb. Trwy ein gwaith cadwraeth rydym yn darparu dwylo cymorth a llais cryf ar gyfer tirwedd arbennig Eryri. Ond yn y pen draw, mae’n ymwneud â’r galon – y berthnasoedd sydd gan bobl â natur, tirwedd a diwylliant Eryri. www.snowdonia-society.org.uk
Ynglŷn â Chynghrair Tirweddau Dynodedig Cymru
Mae’r Gynghrair yn bodoli i:
Mae ei haelodau’n cynnwys: Cymdeithas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymdeithas Eryri, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a Chymdeithas Genedlaethol AHNE yng Nghymru. https://www.afwdl.cymru
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk