Efallai eich bod chi’n cofio darllen am ein hymgyrch i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri, Rhaeadr y Cwm ger Ffestiniog, o gynllun trydan dŵr a fyddai’n golygu dargyfeirio, ar adegau, bron i 70% o’r dŵr allan o’r rhaeadr i bibell blastig.
Mae Cwm Cynfal yn lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros fileniwm. Mae’r ceunant wedi’i diogelu’n fawr o dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o fewn Parc Cenedlaethol. Mae o wedi’i ddynodi’n rhannol ar gyfer y mwsoglau a’r llysiau’r afu prin y gellir eu gweld yno. Os byddwch chi’n dargyfeirio cymaint o ddŵr allan o’r rhaeadr, bydd hynny’n newid yr amodau gwlyb iawn sy’n gwneud y ceunant mor arbennig.
Ymddengys y bydd y cais yn debygol o ddod i’r Pwyllgor Cynllunio ar 3 Medi. Rydym yn brysur yn lobïo Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae gennym ni hefyd syniad codi arian diddorol iawn y byddwch chi’n clywed mwy amdano yn yr wythnosau nesaf.
Ond yn y cyfamser, os nad ydych chi eisoes wedi gwrthwynebu’r cais cynllunio yn ffurfiol, mae yna amser o hyd i wneud hyn. Er bod y dyddiad cau ffurfiol wedi mynd heibio, mae’n dal yn werth ysgrifennu at y Parc Cenedlaethol. Ewch i’r dudalen e-weithredu hon ac ychwanegwch eich enw a’ch cod post. Mae dros 1,000 o bobl eisoes wedi gwneud hynny, sy’n dweud cyfrolau, ond bydd pob gwrthwynebiad ychwanegol o gymorth mawr i’r ymgyrch.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk