Hysbyseb: Swydd ar gyfer Swyddog Cadwraeth

Am Gymdeithas Eryri:

Mae Eryri yn lle arbennig sy’n llawn cynefinoedd a bywyd gwyllt o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Mae newid hinsawdd a’r argyfwng natur byd-eang yn golygu bod angen amddiffyn Eryri rwan yn fwy nag erioed o’r blaen. Dyna beth rydyn ni’n wneud – ni yw’r unig elusen sy’n bodoli’n unig i amddiffyn a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein tîm ymroddedig o staff, ymddiriedolwyr, aelodau a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri a’i gynefinoedd a’i fywyd gwyllt yma i aros.

Mae cadwraeth ymarferol yn elfen sylweddol o’n gwaith, ac mae arnon ni angen rhywun i ymuno â’n tîm i arwain a chydlynu ein rhaglen amrywiol yn y dyfodol. Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ar dasgau fel plannu coed, rheoli rhywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd i enwi ond ychydig. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos iawn ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored ar ein rhaglen wirfoddoli flaenllaw Caru Eryri.

Rydym yn chwilio am aelod newydd o’r tîm. Ydych chi’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a gwybodus sydd â phrofiad o gydlynu gwirfoddolwyr ac arwain gwaith cadwraeth ymarferol? Os felly, fe allai’r swydd hon fod yn berffaith i chi.

Teitl swydd: Swyddog Cadwraeth

Oriau: 37.5 awr/wythnos (ystyrir ceisiadau am weithio hyblyg)

Cyflog: £26,000-£27,000 yn dibynnu ar brofiad

Yn adrodd i: Rheolwr Cadwraeth

Adroddiadau uniongyrchol: Dim

 

Y manteision o weithio gyda ni:

 

  • Rydym yn gyflogwr cyflog byw go iawn
  • Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6%
  • Cydbwysedd bywyd a gwaith gwych gyda gweithio hyblyg, ystwyth a diwylliant o ymddiriedaeth
  • Cyfleoedd i weithio o bell
  • Tanysgrifiad i raglen gymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at gymorth iechyd meddwl a gwasanaethau meddyg teulu a disgowntiau i weithwyr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc yn codi ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
  • Telerau gwell ar gyfer absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir, yn amodol ar hyd gwasanaeth cymwys.
  • Telerau gwell ar gyfer tâl salwch (ar ôl i’r cyfnod prawf ddod i ben)
  • Rydym yn annog ac yn cefnogi pob gweithiwr i ddilyn cyfleoedd datblygu

Manyleb person:

Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn:

  • Bod yn frwdfrydig, yn angerddol ac yn wybodus am gadwraeth natur yn Eryri
  • Bod yn gyfathrebwr rhagorol sy’n mwynhau gweithio gyda phobl
  • Bod â phrofiad profedig o arwain diwrnodau gwaith cadwraeth ymarferol gyda gwirfoddolwyr
  • Bod â phrofiad o weithio mewn tîm i gyflawni, cofnodi a dangos tystiolaeth o allbynnau a thargedau, yn ddelfrydol mewn perthynas ag arianwyr grantiau
  • Bod â sgiliau TG da gan gynnwys profiad o ddefnyddio MS Office (e.e Excel a Word)
  • Bod yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Anogir dysgwyr Cymraeg ymroddedig a siaradwyr ail iaith i wneud cais, rydym am eich helpu i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg!

 

 

Prif gyfrifoldebau:

  • Gweithio gyda’r Rheolwr Cadwraeth a gweddill y tîm, trefnu ac arwain diwrnodau gwaith gwirfoddol yn unol â chynllun gweithredu’r Gymdeithas. Bydd hyn yn cynnwys asesiadau risg, recriwtio gwirfoddolwyr, trefniadau ymarferol, cyhoeddusrwydd i gyfleoedd a gwaith a wneir, cofnodi gweithgaredd gwirfoddolwyr ac adrodd ar waith a gwblhawyd.
  • Gweithio i gynyddu amrywiaeh gwirfoddolwyr a gwella ansawdd profiad y gwirfoddolwyr.
  • Cefnogi’r Swyddog Gwirfoddolwyr pan fo angen gyda gweinyddiaeth ddyddiol y gronfa ddata gwirfoddolwyr gan gynnwys hysbysebion dwyieithog, logos cyllidwyr a phartneriaid, rheoli gweinyddiaeth gwirfoddolwyr, cofnodi gweithgaredd gwirfoddolwyr a chyfathrebu â gwirfoddolwyr yn gywir.
  • Sicrhau bod protocolau diogelu yn cael eu dilyn, a bod materion Iechyd a Diogelwch yn cael eu hadrodd yn brydlon.
  • Gweithio gyda staff eraill a’u cefnogi i gyflwyno digwyddiadau a rhaglen wirfoddoli ddiddorol ac amrywiol.
  • Hyfforddiant: cyfrannu at ddatblygu unedau ac adnoddau newydd, trefnu ac arwain sesiynau hyfforddi, cynnal asesiadau.
  • Yn ôl yr angen, cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau allanol, i feithrin cefnogaeth y cyhoedd i’n gwaith gan gynnwys recriwtio aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr newydd.
  • Cysylltu â staff eraill y Gymdeithas i sicrhau bod yr holl weithgareddau’n rhedeg yn esmwyth.

Cyfrifoldebau eraill:

  1. Mewnbwn i fonitro a gwerthuso gwaith y Gymdeithas, a, gyda staff eraill, datblygu adrodd effaith effeithiol.
  2. Cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau ac i grwpiau, mewn partneriaethau ac yn y cyfryngau i feithrin cefnogaeth i’n gwaith.
  3. Gweithio mewn ffordd i sicrhau bod yr holl staff, ymddiriedolwyr, aelodau, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd yn cael eu trin yn deg, yn barchus ac mewn ffordd sy’n annog amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant.
  4. Mae’r iaith Gymraeg yn un o naw rhinwedd arbennig Eryri. Dylai’r holl staff eiriol dros a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Yn unol â’u gallu eu hunain yn y Gymraeg, dylai aelodau staff gefnogi dysgwyr Cymraeg i ddatblygu sgiliau ac annog siaradwyr di-Gymraeg i ddysgu am y iaith Gymraeg a’i gwerthfawrogi.
  5. Rheoli amser yn effeithiol, gan gysylltu â staff eraill i gytuno ar flaenoriaethau ar gyfer ffocws gwaith.
  6. Gweithio i recriwtio aelodau i’r Gymdeithas.
  7. Glynu wrth bolisïau a gweithdrefnau’r Gymdeithas bob amser, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Gydraddoldeb, dargyfeirio a chynhwysiant, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, polisi salwch ac absenoldeb, Iechyd a Diogelwch, Diogelu, a chydymffurfiaeth â GDPR.
  8. Cynorthwyo mewn meysydd eraill o waith y Gymdeithas yn ôl yr angen.

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rory Francis ar director@snowdonia-society.org.uk.

Sylwch mai dim ond ceisiadau a gwblheir gan ddefnyddio ein Ffurflen Gais Safonol y gallwn eu derbyn.

Dylid anfon pob cais at info@snowdonia-society.org.uk erbyn 24 Tachwedd.

Cynhelir cyfweliadau ar neu o gwmpas 3 Rhagfyr.