Pleidleisio Ymddiriedolwyr
Eleni rydym yn cyflwyno proses bleidleisio newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mae pob darpar ymddiriedolwr a’r ymddiriedolwyr hynny sy’n sefyll i gael eu hail-ethol wedi ysgrifennu datganiad byr amdanyn nhw eu hunain. Gofynnwn yn garedig i chi eu darllen cyn y cyfarfod. Wrth gofrestru, byddwch yn derbyn papur pleidleisio i bleidleisio Ie neu Na dros bob ymgeisydd. Os ydych chi’n mynychu ar-lein, cewch gyfle i bleidleisio trwy gyfrwng pôl yn ystod y cyfarfod.
Mae amser o hyd i register to attend the AGM [gofrestru i fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol] (yn bersonol neu ar-lein). Mae gennych tan ddydd Sul 9 Tachwedd. Dim ond aelodau o Gymdeithas Eryri all bleidleisio.
Dan Goodwin: Efallai eich bod yn adnabod Dan fel cyn-aelod o’r Gymdeithas, lle bu’n gwasanaethu ar y Tîm Cadwraeth am bron i saith mlynedd tan y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd ran allweddol o ehangu rhaglen wirfoddoli’r Gymdeithas. Ar ôl ymuno â’r sefydliad fel gwirfoddolwr ei hun, mae Dan yn eiriolwr angerddol dros werth ac effaith gwirfoddoli.
Ers gadael y Gymdeithas, mae Dan wedi ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri fel rhan o Dîm y Ceidwaid, lle mae’n canolbwyntio ar gynnal a chadw’r rhwydwaith helaeth o lwybrau ledled yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng ngogledd Cymru.
Gan iddo gael ei fagu wrth draed mynyddoedd Eryri, mae gan Dan gysylltiad gydol oes â’r dirwedd ac angerdd dwfn dros hamdden awyr agored – yn enwedig rhedeg llwybrau a beicio.
Mae Dan yn parhau i fod yn awyddus i gefnogi’r Gymdeithas yn ei chenhadaeth i ddiogelu a gwella rhinweddau arbennig Eryri, wedi’i harwain gan ei ymrwymiad parhaus i gadwraeth a chymuned.
Chelsea Boden: Helo, Chelsea ydw i! Efallai eich bod yn fy nghofio yn arwain dyddiau gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri, wrth ddarllen fy erthyglau yn y cylchgrawn, neu o’m gweld yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y llynedd. Gweithiais i’r Gymdeithas fel Cynorthwyydd Cadwraeth yn ystod fy nghyfnod yn cael fy hyfforddi ac yna fel Swyddog Cadwraeth. Rydw i’n gwerthfawrogi fy amser yng Nghymdeithas Eryri yn fawr am bopeth y mae wedi’i ddysgu i mi ac am yr holl bobl wych rydw i wedi’u cyfarfod. Byddwn wrth fy modd yn rhan o ddyfodol y Gymdeithas trwy ddod yn Ymddiriedolwr. Rydw i’n credu’n gryf yn amcanion y Gymdeithas ac yn credu mai’r rhan bwysicaf o frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, yw trwy frwydro yn erbyn difreinio amgylcheddol trwy annog a hwyluso ymgysylltiad â’r awyr agored. Mae hon yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl pam y dylent ofalu am yr amgylchedd a’u hatgoffa ei fod yn perthyn i bob un ohonom a bod ganddyn nhw le ynddo hefyd. Mae hyn yn rhywbeth rydw i’n credu bod y Gymdeithas yn ei wneud yn dda iawn, hyd yn oed os nad yn gwbl fwriadol, a rhywbeth rydw i’n credu y gallwn ni wthio amdano hyd yn oed yn fwy trwy gyfrwng ein gwirfoddoli cadwraeth a thrwy ein heiriolaeth. Rydw i wedi cyffroi wrth ymgysylltu â’r Bwrdd, yr aelodaeth a’r staff presennol i weld sut y gallwn ddatblygu gwaith y Gymdeithas ymhellach i helpu i gyflawni ei hamcanion o ddiogelu ein tirwedd arbennig a’n hamgylchedd ehangach ac annog eraill i ymgysylltu â hi i wneud yr un peth.
Matthew Teasdale: Mathew Teasdale yw Rheolwr Gweithredu a Phartneriaethau yr YHA (Cymdeithas Hosteli Ieuenctid Cymru a Lloegr) yng Nghymru ar hyn o bryd. Wedi gweithio i’r YHA dros 21 mlynedd mewn amrywiol swyddi, mae bellach yn cefnogi’r saith hostel ieuenctid a saif ar hyn o bryd o fewn ffiniau Parciau Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â chydweithio gyda rhanddalwyr allanol a chyrff sy’n bartneriaid ledled amrywiaeth o brojectau a mentrau.
Gan ei fod yn gweithio o fewn y sector groeso, mae’n awyddus iawn i sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchod rhinweddau eithriadol Parc Cenedlaethol Eryri a hyrwyddo twristiaeth gyfrifol, cyflogaeth leol economaidd hyfyw, a chymunedau cynaliadwy lleol. Yn byw bellach ar gwr y Parc yng Nghonwy gyda’i deulu, mae Mathew yn mwynhau cerdded, darllen a chrwydro pan nad yw’n gweithio neu’n treulio amser efo’r teulu. Mae’n hyrwyddwr brwdfrydig o fuddion yr amgylchedd naturiol o safbwynt iechyd a lles.
Mae Mathew wedi bod yn ymddiriedolwr i Gymdeithas Eryri ers 6 mlynedd. Er nad oes ganddo wybodaeth arbenigol am gadwraeth, mae cefnogaeth a phrofiad Mathew yn cyfrannu at elfennau ariannol a dynol gweithrediadau’r gymdeithas o ddydd i ddydd, yn enwedig o ran cyllido a materion AD. Mae hefyd yn gyfarwydd â rheoli eiddo gwledig anghysbell yng nghanol Parciau Cenedlaethol, ac mae ganddo ddiddordeb ymarferol gweithredol yn adeilad Tŷ Hyll a’i le o fewn Cymdeithas Eryri.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk