Rydym wedi lansio ein pumed cystadleuaeth ffotograffiaeth flynyddol ac yn gwahodd ffotograffwyr brwd i anfon eu hoff ddelweddau Eryri i mewn erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 27 Mehefin 2022.
Dewisir deuddeg llun buddugol a fydd yn cael eu cyhoeddi yng nghalendr y Gymdeithas ar gyfer 2023, sydd ar gael i’w brynu ar-lein o fis Medi ymlaen.
Gwahoddir ymgeiswyr i anfon un ffotograff sydd, yn eu tyb nhw, yn cyfleu Eryri orau. Cwblhewch y ffurflen isod erbyn 9 o’r gloch bore 27 Mehefin 2022. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Llun 18 Gorffennaf 2022. Gweler telerau ac amodau’r cystadleuaeth YMA.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk