CCB 2025

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym Mhlas y Brenin, Capel Curig am 6yh Dydd Mercher 12fed Tachwedd 2025

Eleni, fel arbrawf, byddwn yn rhoi cynnig ar fformat hybrid. Fel aelod, byddwch yn gallu cymryd rhan un ai drwy fod yng Nghanolfan Awyr Agored Plas y Brenin eich hun, neu ar-lein o unrhyw leoliad. Hefyd, rydym wedi dewis noswaith yn ystod yr wythnos yn hytrach na dydd Sadwrn, felly byddwch yn gallu cymryd rhan heb deithio ymhell na cholli diwrnod o’r penwythnos. Gobeithio y bydd hyn yn denu mwy o aelodau, yn enwedig rhai iau. Cofiwch nodi hyn yn eich dyddiadur nawr.

Mae gennym ddarlith gan Carwyn Graves, awdur y llyfr newydd nodedig, ‘Tir’, sy’n rhoi hanes tirlun Cymru, a adolygwyd gennym yn rhifyn olaf y cylchlythyr hwn.

Dyma eich cyfle i ymuno â’r staff a’r tîm o ymddiriedolwyr ar ddiwrnod i’w fwynhau, i ddysgu am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf a’i chynlluniau ar gyfer y nesaf.

Bydd cofnodion 2024, yr Adroddiad Blynyddol, y Cyfrifon Blynyddol ac Adolygiad y Flwyddyn ar gael ar ein gwefan: www.snowdonia-society.org.uk erbyn 1af Tachwedd.

Os nad ydych yn gallu gweld yr wybodaeth ar ein gwefan cysylltwch â’r swyddfa drwy ebostio www.snowdonia-society.org.uk neu drwy ffonio’r swyddfa ar 01286 685498. Gallwn yna ebostio neu bostio’r dogfennau i chi. Bydd y sawl sy’n cofrestru i fynychu’r CBC yn derbyn y dogfennau’n awtomatig ar ebost.

Agenda

17:30-18:00 – Cofrestru, te a choffi
18:00 – Busnes ffurfiol y CBC
1. Ymddiheuriadau
2. (i) Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2024
(ii) Materion yn codi o’r cofnodion hyn
3. Adroddiad y Cadeirydd – Sue Beaumont
4. Adroddiad y Cyfarwyddwr – Rory Francis
5. Adroddiad Prosiect Cadwraeth
6. Adroddiad Ariannol
7. Mabwysiadu Adroddiadau a Chyfrifon
(i) Cynnig i fabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y cyfnod yn diweddu 31 Mawrth 2025
8. Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith. Penodi ymddiriedolwyr Newydd.
9. Cwestiynau i’r Cyfarwyddwr a’r Swyddogion
10. Unrhyw fusnes arall
19:00 – Cinio (trefnwch a thalwch ar-lein os gwelwch yn dda)
20:00 – Siaradwr gwadd: Carwyn Graves (Gwahoddir cyfranogwyr ar-lein i ail-ymuno ar ôl y cinio)

Cofrestrwch YMA