Afonydd mewn Perygl: Gofynnwch i Lywodraeth Cymru weithredu!

Dylai afonydd Parciau Cenedlaethol fod ymhlith y glanaf a’r rhai mwyaf gwarchodedig yng Nghymru – ond o dan yr wyneb, maen nhw mewn argyfwng.

Ond mae adroddiad newydd gan Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, yr ydym yn aelod ohoni, yn datgelu bod 48% o afonydd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn methu â chyrraedd statws ecolegol da. Mae’r dyfroedd hyn yn dioddef o gannoedd o filoedd o oriau o ollyngiadau carthffosiaeth, dŵr ffo amaethyddol, a choctel cemegol gwenwynig, gyda gorlifiadau carthffosiaeth y tu mewn i Barciau Cenedlaethol yn gollwng mwy na dwbl y cyfartaledd y tu allan.

Mae’r diwygiad mwyaf o reoleiddio dŵr mewn degawdau bellach ar y gweill, felly dyma’r amser i weithredu.

Mae Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol wedi trefnu ymgyrch i alw am gamau brys i glirio’r afonydd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru. A wnewch chi ddangos eich cefnogaeth trwy ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet Huw Irranca Davies?

Anfonwch eich llythyr nawr!