Adferiad Byd Natur yn Eryri

Adferiad Byd Natur yn Eryri

Mae Parciau Cenedlaethol mewn sefyllfa dda i adfer byd natur, os yn berchen ar y cyfarpar priodol

Rydym yn gwybod bod byd natur mewn trybini.
Dydy’r holl dystiolaeth yr hoffem ei chael ddim gennym, ond mae gennym ddigon.
Rydym yn pwyso ar lywodraethau i weithredu ar frys.
Mae llywodraethau’n ymateb gyda strategaethau neu raglenni ariannu.
Dydy’r ymatebion ddim wedi eu targedu’n briodol, dydy eu huchelgais ddim yn eglur, dydyn nhw ddim wedi eu hariannu’n ddigonol neu dydyn nhw ddim yn digwydd dros gyfnod digon hir.
Mae byd natur yn parhau i ddioddef.
Mewn safleoedd gwarchodedig dydy’r prinhad ddim yn digwydd mor sydyn, ond mae’n dal yn brinhad.
Yn y cefn gwlad ehangach mae pethau’n waeth.

Yn drist iawn, dyma ddolen yr ydym wedi ei dilyn nifer o weithiau erbyn hyn.
Mae angen i ni dorri’r ddolen hon a dod ohoni

Mae cryn ddiddordeb mewn menter fyd-eang y cyfeirir ati fel 30×30, sydd â’r nod o sicrhau 30% o dir a môr o dan warchodaeth dros fyd natur erbyn 2030.

Mae o leiaf 90 gwlad wedi arwyddo i’r ymrwymiad hwn. Ar lefel y DU mae’n edrych yn debyg y bydd yr ymrwymiad yma’n cael ei ateb wrth gynnwys tirluniau dynodedig fel mannau wedi eu gwarchod. Yng Nghymru mae Parciau Cenedlaethol ac AHNE yn gorchuddio oddeutu 25% o’r arwynebedd tir, felly dydy sicrhau 30% erbyn 2030 ddim yn ymddangos yn amhosibl. Ond yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ymrwymiad Cymru i 30×30 ym mis Hydref 2021 (https://record.assembly.wales/Plenary/12455#A67620) wrth gydnabod canlyniadau colli arian yr UE ar gyfer adferiad byd natur.

Does dim amheuaeth nad ydy tirluniau dynodedig yn cyfrannu cryn dipyn o warchodaeth o safbwynt treftadaeth tirlun a diwylliant. Y broblem yw nad yw tirluniau dynodedig ar hyn o bryd yn gwireddu adferiad byd natur drwyddo draw – mae ambell i unigolyn a phroject rhagorol yn gwireddu canlyniadau ond eithriadau ydyn nhw’n hytrach na’r arferol. Mae adroddiad diweddar gan Gymdeithas Ecolegol Prydain (cyswllt isod) yn amlygu’r broblem:

‘Mae safleoedd wedi eu dynodi fel tirluniau gwarchodedig (yn cynnwys Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) yn cyflwyno cyfleoedd unigryw ar gyfer bioamrywiaeth yn y DU. O ystyried eu bod yn cynnwys ystod eang o gynefinoedd ac amodau amgylcheddol, fe all eu cyfraniad i adferiad byd natur a chymdeithas yn fwy cyffredinol fod yn enfawr. Mae gan awdurdodau tirluniau dynodedig berthnasau ardderchog gyda phobl sy’n berchen ar y tir ac sy’n ei weithio, ac fe all hyn olygu newid sydyn, o gael adnoddau digonol. Fodd bynnag, nes bydd adferiad sylweddol wedi ei wireddu ni ddylid cynnwys y categori hwn o ardal warchodedig yn awtomatig yn nharged 30×30. Er y byddai’r ardaloedd yma yn gallu darparu rhywfaint o fuddion o ran bioamrywiaeth, dydyn nhw ddim o anghenraid yn gwireddu dros fyd natur yn y tymor hir gyda’i gilydd. Rhywfaint o’r rheswm dros hyn yw’r diffyg adnoddau ar gyfer gweithredu ar y ddaear, er gwaethaf y ffaith bod pobl sy’n gweithio i awdurdodau perthnasol yn angerddol dros fyd natur.’

Does dim angen i ni newid pwrpasau tirluniau dynodedig. Does dim angen deddfwriaeth newydd arnom. Mae’n debyg nad oes angen adolygu strwythuro enfawr arnom chwaith. Mae’r llwybrau yma i gyd yn cymryd gormod o amser. Dydy’r amser yma ddim gennym. Yr hyn sydd ei angen yw sicrhau bod adferiad byd natur yn flaenoriaeth amlwg ac i sicrhau adnoddau ar gyfer y gwaith hwn fel pa bai ein bywydau yn dibynnu ar hynny. Dyna’r gwirionedd, wrth gwrs.

Rydym wedi gweld arwyddion o’r arweiniad sydd ei angen yng ngwaith Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth – mae arnom angen gwireddu’r un uchelgais fel bod tirluniau dynodedig yn gallu gwireddu eu potensial enfawr o ran adferiad byd natur. Byddwn yn gwneud ein rhan i symud yr agenda hwn ymlaen.

Adroddiad Ardaloedd Gwarchodedig ac Adferiad Byd Natur (Protected Areas and Nature Recovery Report): https://www.britishecologicalsociety.org//wp-content/uploads/2022/04/BES_Protected_Areas_Report.pdf

 

Comments are closed.