Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn treialu rhagarchebu tocynnau parcio ym Mhen y Pass.

Yn dilyn adolygu’r mesurau brys a roddwyd mewn lle ar y cyd â phartneriaid, fe fydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn adeiladu ar y llwyddiant drwy dreialu system rhagarchebu tocynnau ym maes parcio Pen-y-Pass ar benwythnosau a gwyliau banc am weddill yr haf.

Bydd  y peilot tymor byr, a gytunwyd â Chyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru, yn cael ei weithredu fel ffordd o asesu modelau rheoli newydd sy’n cyd-fynd a chynlluniau hir dymor o ddatblygu system parcio a thrafnidiaeth arloesol yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen.

Bydd mynediad i’r maes parcio wedi ei neilltuo ar gyfer rhagarchebion yn unig. Fe fydd yn rhaid i unrhyw lefydd parcio ym Mhen-y-Pass fod wedi eu rhagarchebu ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri cyn cyrraedd. Disgwylir i ymwelwyr sydd wedi bwcio ddangos ebost yn cadarnhau wrth gyrraedd ar gyfer cael mynediad i’r maes parcio. Bydd angen i unrhyw un heb le parcio wedi ei ragarchebu ddefnyddio’r gwasanaeth Parcio a Theithio yn Nant Peris a Llanberis ar gyfer mynediad i Ben-y-Pass.

Mae’n bwysig nodi ein bod yn disgwyl i’r llefydd parcio werthu yn eithriadol o sydyn. Bydd  y gwasanaeth rhagarchebu yn agor am hanner nos ar nos Fercher y 19eg o Awst.

Disgwylir i’r Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth arloesol ar gyfer ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen gael ei chyflwyno i bartneriaid ym mis Medi. Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad â chymunedau a phartneriaid a’r dadansoddiad data, roedd yn amlwg bod y momentwm a’r awydd i fynd ati i ddatblygu cynnig Twristiaeth Gynaliadwy integredig. Felly mae eu hargymhellion yn cynnwys atebion pellgyrhaeddol, cyfannol a chynaliadwy gan ddefnyddio model ar ffurf arddull Alpaidd, a allai drawsnewid ein hymagwedd tuag at deithio yn y rhanbarth.

Comments are closed.