Ym mis Rhagfyr yn Tŷ Hyll, mae gennym ni ddigwyddiad gwneud addurniadau Nadolig naturiol: eisteddwch ger y tân a gwnewch blethdorch Nadoligaidd hyfryd i addurno drws. Mae digwyddiadau eraill yn Tŷ Hyll ym mis Rhagfyr yn cynnwys sesiwn adnabod coed yn ystod y gaeaf. Gallwch ddysgu gan arbenigwr sut i adnabod coed pan fydd y dail wedi disgyn, a byddwn yn cynnal ein diwrnod gwaith misol yn y coetir hefyd. Trowch at y tudalennu ‘digwyddiadau’ am ragor o fanylion.