Symud ymlaen tua’r dyfodol: ein Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2019

Symud ymlaen tua’r dyfodol: ein Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2019

Daeth dros 50 aelod o staff, ymddiriedolwyr ac aelodau at ei gilydd mis diwethaf ar gyfer CBC Cymdeithas Eryri ym Mhlas y Brenin, Capel Curig.

Wedi saith mlynedd o wasanaeth, ac yn dilyn cyfnod lle bu i Gymdeithas Eryri sefydlogi a ffynnu, ymddeolodd David Archer fel Cadeirydd, cyn i’r Cadeirydd newydd Julian Pitt gyflwyno ei araith gychwynnol i aelodau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Pwysleisiodd y cyn-Gadeirydd a’r Cadeirydd newydd bwysigrwydd recriwtio ymddiriedolwyr newydd; pobl gydag angerdd dros Eryri sy’n fodlon rhoi rhywfaint o amser i helpu’r Gymdeithas i symud ymlaen.

Cyflwynodd y staff gyflawniadau’r flwyddyn 2018/19 mewn ffigurau, sy’n dangos cynnydd calonogol o ran aelodaeth, oriau gwirfoddolwyr a gwarchodfeydd. Yn anoddach ei werthuso ond cyn bwysiced yw ein gwaith partneriaeth ledled Eryri, sy’n sefydlogi fwyfwy. Ymysg yr uchafbwyntiau enghreifftiol roedd:

  • Partneriaeth Tirlun y Carneddau
  • Project sbwriel Partneriaeth yr Wyddfa
  • Gwaith cadwraeth yn ne’r Parc Cenedlaethol
  • Penwythnos Mentro a Dathlu (MaD)

Yn ystod y Sesiwn Holi’r Ymddiriedolwyr, cafodd yr aelodau gyfle i holi ymddiriedolwyr ar faterion cyfredol megis y defnydd o drônau yn y mynyddoedd a’r heriau sy’n wynebu ffermio a bioamrywiaeth.

Yn dilyn cinio blasus ym Mhlas y Brenin ymgasglodd y mynychwyr ar gyfer darlith heriol Mike Alexander, ‘Progress or greenwash?’. Gan gyfeirio at gadwraeth ledled Eryri a thu hwnt, trafododd Mike hanes ‘greenwashing’ a’r risg sydd ynghlwm â’r defnydd o iaith newydd a chyfoes, o ‘adnoddau naturiol’ i ‘ddad-ddofi’. Mae atebion syml i heriau cymhleth wrth natur yn anodd a dydy dull o ymateb drwy beidio gweithredu ddim yn syml mewn gwirionedd, meddai, mewn tirlun llawn pobl a diwylliant fel Eryri.

Daeth y diwrnod i ben gyda thaith hydrefol o dan orchudd hyfryd y coed gyda Rob Collister, yn cynnwys ymweliad â Chaffi Siabod am bot o de a sgonsen anferth. Cytunodd y mynychwyr i’r diwrnod fod yn un positif a oedd wedi eu hysgogi, sy’ n adlewyrchu nerth Cymdeithas Eryri yn 2019.

Diolch o’r galon

Hoffai Cymdeithas Eryri fynegi ei diolch arbennig i Mike Alexander am ei ddarlith ac am gyfrannu ei brintiau i’r Gymdeithas; i Netti am ei blodau hydrefol hyfryd; i Rob am arwain taith y prynhawn ac i bob un o’n haelodau am eu hymrwymiad rhagorol a’u cefnogaeth barhaol.

Comments are closed.