Chwefror: mis mynyddoedd
Dysgwch sut caiff cadwyni mynyddoedd eu creu a’u dinistrio trwy wrando ar sgwrs hynod ddiddorol Paul Gannon ynghylch Daeareg Mynyddoedd ar 15 Chwefror.
Neu ewch allan i fwynhau mynyddoedd Eryri ar daith dywys gaeaf i fyny Cadair Idris ar 24 Chwefror!
Felly beth am anghofio am ddiflastod y gaeaf a mwynhau mynyddoedd Eryri?
Rhowch yn hael
Yn hytrach na phenodi pris ar gyfer rhai o’n digwyddiadau, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri.
Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â’r swyddfa (dydd Llun i ddydd Iau):
01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk