Mireinio ein Mynyddoedd: Llwybr PyG, Y Wyddfa

O ganlyniad i haf prysur arall, ar y cyd â chyfnodau o dywydd Cymreig arferol a’r anallu i gynnal a chadw llwybrau yn ystod y cyfnod clo, mae’r llwybrau i gopa’r Wyddfa mewn cyflwr eithaf truenus. Ond,ar 23 Medi, daeth gwirfoddolwyr at ei gilydd i helpu i dacluso llwybr y PyG cyn gwyliau hanner tymor yr hydref.

I ddechrau, canolbwyntiodd y tîm ar agor y ffosydd orlawn a chreu sianeli draenio ymhellach ymlaen ar hyd canol y llwybr er mwyn caniatáu i’r dŵr lifo i lawr y llethr a rhwystro erydiad dŵr pellach. Fodd bynnag, cyn bo hir cychwynnwyd ar her fwyaf y dydd, sef clirio’r deunydd oedd wedi cwympo ar ddarn serth o’r llwybr o ganlyniad i lithriad tir, ychydig cyn cyffordd y llwybr efo Llwybr y Mwynwyr. Wedi awr o rawio, daethpwyd at y llwybr â’i risiau cerrig, gan ddarparu profiad cerdded mwy diogel i’w fwynhau unwaith eto.

Wedi egwyl fach i gael cinio sydyn, a chalorïau yr oedd mawr eu hangen cyn cychwyn i lawr am Pen y Pas, roedd angen gwneud mwy o waith. Wrth ddychwelyd, oedodd y tîm i wagio ac yna gorchuddio pibell ddraenio oedd wedi dod i’r golwg ar y llwybr, gan beri perygl i gerddwyr a throi’r llwybr yn rhyw fath o afon. Gweithiodd y tîm â rhaw bob yn ail i glirio y tu mewn i’r bibell a gosod y cerrig a’r llaid ar ei phen, gan orffen y gwaith drwy osod carreg ar un pen o’r bibell i rwystro cerddwyr rhag camu oddi ar yr ochr.

Gorchwyl olaf y diwrnod oedd chwalu’r fwyaf o dair carnedd nad oedd eu hangen ar ganol y llwybr. Er efallai nad ydy’r carneddau yma yn tynnu sylw cerddwyr, maen nhw’n dechrau peri problem erbyn hyn gan fod y ffordd y mae’r twmpath wedi ei greu o gerrig yn gallu peri neu gyflymu erydiad y llwybr, gan fod defnyddio cerrig o ochr y llwybr yn dadorchuddio pridd noeth i effeithiau’r glaw a’r haul.

Rydym felly yn atgoffa ymwelwyr, os y dôn nhw ar draws carnedd newydd ei chodi ar y Wyddfa, i dynnu carreg oddi arni a’i gosod ar ochr y llwybr, yn hytrach na’r arferiad traddodiadol o ychwanegu ati. Mi fyddai hyn hefyd yn helpu i arbed cryn dipyn o waith i’n gwirfoddolwyr, gan fod eisoes digon o waith i’w cadw’n brysur.

Diolch i bob un o’r gwirfoddolwyr a fu’n cymryd rhan ar y diwrnod gwaith hwn, ac i’r holl gerddwyr gwerthfawrogol a aeth heibio iddyn nhw.

Erthygl a ysgrifennwyd gan fyfyriwr ar leoliad,

Owen Davies.

Comments are closed.