Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr weithio’n galed iawn trwy gydol mis Mai, gan gwblhau ymhell dros 400 awr o waith! Daeth myfyrwyr o Goleg Capel Manor atom ni am 3 diwrnod, ac fe wnaethant weithio bron iawn 300 awr i warchod ein Parc Cenedlaethol arbennig! Yn ystod mis Mai, fe wnaeth gwirfoddolwyr:
- Glirio Rhododendron
- Gweithio ar lwybrau troed Eryri
- Rheoli tiroedd
- Cynnal arolygon o adar a dyfrgwn
- Garddio er lles bywyd gwyllt
Yn ogystal â’u gwaith ymarferol, fe wnaethant hefyd fwynhau taith dywysedig trwy’r coed gydag ecolegydd a dysgu sut i adnabod coed cynhenid yn ystod ein digwyddiad hyfforddiant ynghylch Adnabod Coed Cynhenid. Roedd Mai yn fis prysur iawn a hoffem ddiolch o galon i’n holl bartneriaid a’n gwirfoddolwyr am eu gwaith gwych!
Mae angen eich cymorth ar Eryri – os ydych chi’n awyddus i gyfranogi, beth am ymuno â ni yn yr heulwen i gyfranogi yn rhai o’n diwrnodau gwaith a’n digwyddiadau yn ystod yr haf?