Maniffesto ar gyfer Parciau Cenedlaethol Cymru

Galwad am weithredu gan y llwyodraeth oddi wrth Gynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru

Mae etholiadau’r Cynulliad yn agosáu, a mae Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi Maniffesto. Rydym yn gofyn i chi annog eich ymgeiswyr lleol i gefnogi Parciau Cenedlaethol Cymru.

Gallech ddefnyddio’r llythyr enghreifftiol hon.

Mae Tirweddau Cenedlaethol Cymru – y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, sy’n cwmpasu 25{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o’r arwynebedd tir, yn asedau mawr i’r genedl ac yn cyfrannu’n aruthrol at ei lles.

Ein gweledigaeth ar gyfer Tirweddau Cenedlaethol Cymru

Mewn cenhedlaeth rydym eisiau i’r ardaloedd hyn fod ar flaen y gad o ran rheolaeth defnydd tir cynaliadwy a gwireddu eu potensial llawn fel cyfranwyr at Nodau Llesiant Cymru. Byddant yn lleoedd lle mae eu rhinweddau arbennig yn cael eu parchu a’u gwella gan bawb sy’n byw ynddynt, yn eu defnyddio ac yn eu mwynhau, oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol a’r amrywiaeth o fuddiannau ansawdd uchel maent yn darparu.

Maniffesto AfNP Cymru

Llythyr enghreifftiol

Comments are closed.