Cymerwch ran yn ein digwyddiad Gwneud Gwahaniaeth ym mis Medi
Ymunwch â ni ar y ddigwyddiad Penwythnos gwneud gwahaniaeth yma ar Dydd Gwener 29 a Dydd Sadwrn 30 o Fedi i helpu gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
Cliciwch yma i gofrestru ar lein
Rhad ac am ddim i bob gwirfoddolwr sy’n cymryd rhan!
Gallwch ddisgwyl llwyth o actifeddau cadwraeth ymarferol a’r cyfle i wersylla yn Craflwyn, ger Beddgelert. Mae’r gweithgareddau mewn partneriaeth a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadwch Gymru’n Daclus, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a llawer fwy, a bydd yn cynnwys:
- Clirio rhywogaethau ymledol
- Rheoli cynefin gwlyptiroedd
- Glanhau afon
- Clirio sbwriel ar yr Wyddfa
- Cynnal llwybrau troed
- Arolwg ymlusgiaid
A thaith Natur â Chwedlau ar bnawn Gwener gyda noson o gerddoriaeth a bwyd yn un o’r llefydd harddwch yn Eryri. Nodwch fod cludiant am ddim ar gael o/i Fangor ar y dydd Sadwrn i’r rhai sydd â diddordeb mynychu am un ddiwrnod yn unig. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno!
Amserlen Drafft:
Cliciwch yma i gofrestru ar lein
Am ymholiadau cyffredinol ar gyfer y ddigwyddiad penwythnos yma, cysylltwch â Claire ar: claire@snowdonia-society.org.uk
Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd