Penwythnos MaD 2022 – diolch i bawb!

Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ein pumed penwythnos Mentro a Dathlu flynyddol! Daeth cyrff sy’n bartneriaid, noddwyr, gwirfoddolwyr a staff i gyd at ei gilydd i gwblhau amrywiaeth o orchwylion ymarferol i helpu i edrych ar ôl harddwch, rhywogaethau a chynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri.

•             Cliriwyd erw o brysgwydd o gynefin gwlyptir gwerthfawr Cors Bodgynydd gyda Chymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru

•             Cliriwyd 6 milltir o ddraeniau llwybr a thrwsiwyd cloddiau cerrig sych yn amgylchedd mynyddig Cwm Idwal gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

•             Taenwyd 60m o lwybr sglodion coed (o goed ynn a gwympwyd ar y safle), cliriwyd 1 erw o jac-y-neidiwr, a heuwyd miloedd o hadau blodau gwyllt ar safle Coed Cadnant Coed Cadw

•             Cliriwyd 35kg o sbwriel, 3 teiar a chôn traffig o Lyn Padarn wrth gasglu sbwriel ar ganŵ gyda Chwaraeon Dŵr Eryri

•             Cliriwyd 24kg o sbwriel o fannau poblogaidd y Parc Cenedlaethol wrth Lyn y Cŵn ac ar lwybr Watkin yr Wyddfa fel rhan o’r cynllun partneriaeth Caru Eryri

•             Tynnwyd dros fil o blanhigion jac-y-neidiwr o lannau’r afon Ogwen gyda Chymdeithas Eryri

•             Teithiau ar droed, ar ganŵ, ar e-feic ac ar fws trydan i lawer o safleoedd project y penwythnos, diolch i Chwaraeon Dŵr Eryri a Phartneriaeth Ogwen.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich penderfyniad a’ch parodrwydd i’n helpu i warchod Eryri. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth!

Comments are closed.