Dewch i wneud sblash ym Mhenwythnos MAD 2018

Dewch i wneud sblash ym Mhenwythnos MAD 2018

Mae gweithgareddau canŵio a chasglu sbwriel wedi cael ei gadarnhau ar gyfer rhaglen Penwythnos MAD (Mentro a Dathlu) 2018 y Gymdeithas a gynhelir y mis Medi hwn.

Mae dau fusnes lleol, canolfan chwaraeon mynydd Plas y Brenin a Snowdonia Watersports, wedi rhoi benthyg fflyd o ganŵod Canadaidd ar gyfer gweithgaredd casglu sbwriel ar Lyn Padarn, Llanberis, ar ddydd Sul 23 Medi.

Mae’r gweithgaredd casglu sbwriel ar y llyn yn un o blith llu o ddigwyddiadau sy’n rhan o raglen Penwythnos MAD, ac fel rhan o’r gweithgaredd, bydd criw o wirfoddolwyr dewr yn mentro ar y dŵr i glirio unrhyw sbwriel a malurion y byddant yn eu canfod ar y llyn eiconaidd hwn yn Eryri, dan arweiniad padlwyr profiadol.

Dywedodd Chris Thorne, sylfaenydd Snowdonia Watersports: “Fel busnes sy’n gweithredu ar lannau Llyn Padarn ac yn dibynnu ar y poblogrwydd sy’n deillio o harddwch y llyn, rydym ni’n credu fod angen cadw’r llecyn hwn yn lân ac yn daclus, ac rydym ni’n credu fod dyletswydd arnom ni i gefnogi Penwythnos MAD yn llawn.”

Y broblem sbwriel

Dywedodd John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Mae sbwriel yn broblem sy’n ymddangos ym mhobman yn y Parc Cenedlaethol, ac rydym ni’n mynd i’r afael â hynny ar lwybrau troed cyhoeddus, traethau, copaon, a hyd yn oed yn ein hafonydd a’n llynnoedd.” Ychwanegodd: “Mae’n galonogol gweld gwirfoddolwyr a busnesau lleol fel ei gilydd yn cydweithio i fynd i’r afael â’r broblem hon trwy gyfranogi yn ein Penwythnos MAD. Rydym ni’n gobeithio gwneud sblash go iawn yn 2018”.

Eich cyfle i gyfranogi

Mae rhaglen lawn y penwythnos yn cynnwys 14 o wahanol weithgareddau i wirfoddolwyr yn ystod tri diwrnod o 21 i 23 Medi, a bydd gwersylla, barbeciw mawr a cherddoriaeth fyw yn Ystâd Craflwyn i’r holl gyfranogwyr.

A yw hyn wedi codi awydd arnoch chi? Os felly, cofrestrwch ar-lein nawr i fod yn rhan o Benwythnos MAD 2018 Cymdeithas Eryri.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn Penwythnos MAD 2018

 

 

Comments are closed.