Love will tear us apart, again*

Gan ein Cyfarwyddwr.

Am ychydig heddiw, fe wnes i eistedd â fy mhen yn fy nwylo.

Mae dadl ynghylch taliadau rheoli tir yn bygwth dadwneud degawdau o waith cadwraeth natur.

Mae’r erthygl hon yn un o blith nifer sydd wedi ymddangos heddiw:  Welsh wildlife groups accused of pedalling ‘fake dystopia’ in battle for farm funding â’r is-bennawd ‘NFU Cymru fears campaigners are painting a misleading picture of the contribution farmers make to wildlife and the environment in Wales.’

Y cyd-destun yw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y system nesaf o daliadau am reoli tir yng Nghymru.  Mae llawer o ffermwyr yn dymuno gweld taliadau uniongyrchol yn parhau.  Mae llawer o gadwraethwyr yn dymuno cael rhagor o’r arian i gynorthwyo ag adferiad natur.  Mae Llywodraeth Cymru yn holi llawer iawn o gwestiynau, felly mae’n anochel y bydd amrywiaeth helaeth o atebion.  Gwaith y Llywodraeth yw canfod ateb, ac am unwaith, rydym ni’n cydymdeimlo â hwy.

Dewch i ni ddatgan un peth yn glir – nid oes unrhyw beth ffug am ddirywiad natur; yng Nghymru ac yn sawl rhan arall o’r byd, mae’n bodoli ac mae digonedd o dystiolaeth o hynny – dylai unrhyw sy’n amau hynny ddarllen Adroddiad Cyflwr Natur y Deyrnas Unedig neu’r Adroddiad am Gyflwr Adnoddau Naturiol, sy’n ymwneud yn benodol â Chymru.   Ond nid dyna’r pwynt pwysicaf.

Mae ffermwyr yn hoff iawn o’u tir a nhw sydd wedi llunio’r tir sydd mor annwyl i bawb ohonom ni.  Mae cadwraethwyr yn hoff iawn o fyd natur sy’n cynnal ei fywoliaeth fregus ei hun o’r un tir.  Ers degawdau, mae pobl wedi ceisio canfod dulliau o sicrhau y gall y ddau beth hollbwysig hyn gyd-fyw, i gadw pobl a bywyd gwyllt ar y tir ble ddylent fod.  Mae rhai ymdrechion wedi bod yn fwy llwyddiannus nag eraill, ond yn raddol, mae’r drafodaeth wedi dod yn haws.  Fesul modfedd, mae’r tir cyffredin wedi ehangu.

Os wnawn ni ganiatáu i rwyg ddatblygu rhwng amaethyddiaeth a bywyd gwyllt unwaith eto, fe gawn ni ein cadwyno i’r un pileri am genhedlaeth arall, efallai mwy na hynny.  Mae ‘cynhyrchu’ yn erbyn ‘natur’ yn ddeuoliaeth ffug y dylid ei dileu.  Gallwn ni gael y ddau.  Ni fydd hynny’n berffaith a bydd angen i bawb ohonom ni gyfaddawdu.

Mae’n bryd dychwelyd i weithio nawr.  Fe wnawn ni gyflwyno ymateb cadarnhaol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch ’Brexit a’n tir <https://beta.gov.wales/support-welsh-farming-after-brexit>.  Byddwn yn cyfleu neges gadarnhaol ynghylch cadw sgiliau craidd rheoli tir yn y mannau ble mae eu hangen ac rydym ni’n edrych ymlaen at eu gweld yn cyfrannu at adferiad natur yng Nghymru.

Parciau Cenedlaethol yw’r enghreifftiau gorau sydd gennym ni o integreiddio ffermio a chadwraeth ar lefel tirweddau cyfan.  Dewch i ni adeiladu ar y sylfaen honno a chynnig gweledigaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch uchelgais Eryri sy’n sicrhau ein bod ni’n parhau i gydweithio.

 

*Love will tear us apart  –  cân gan Joy Division, 1980

 

 

Comments are closed.