Cawn glywed gan ddau o’n gwirfoddolwyr rheolaidd, Jordan Mann a Sarah McGuiness, am eu profiadau o wirfoddoli i Gymdeithas Eryri.
“Mae gwirfoddoli wedi fy helpu i ddod yn fwy hyderus, ynof i fy hun ac yn fy ngallu i symud ymlaen â gyrfa ym maes cadwraeth. Rwyf i wedi gwella sgiliau gwerthfawr megis gwaith tîm a chyfathrebu. Yn ogystal â fy nghynorthwyo i gyflawni nodau fy ngyrfa, mae gwirfoddoli yn weithgarwch amser hamdden gwych i mi hefyd. Mae gallu cyfranogi mewn gweithgareddau awyr agored, â thirweddau prydferth o fy amgylch, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd hwnnw ar yr un pryd, yn brofiad anhygoel.
Bydd Cymdeithas Eryri yn ad-dalu cymaint i’w gwirfoddolwyr trwy gludiant am ddim i ddiwrnodau gwaith, digwyddiadau cymdeithasol, a hyfforddiant am ddim ynghylch amrywiaeth o bynciau amgylcheddol. Mae’r cyrsiau hyfforddi hyn wedi sbarduno fy niddordeb mewn pynciau megis trapio gwybed, gwneud arolwg o ddyfrgwn, ac adnabod coed. Fe wnaeth y diwrnodau hyn fy nghynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o bob pwnc, mewn amgylchedd difyr a hamddenol, ac roeddwn i’n gallu ychwanegu rhagor o wybodaeth at y ddealltwriaeth honno trwy gyfrwng fy niddordeb newydd.”
Sarah McGuinness
“Wrth gyfranogi yn niwrnodau gwaith Cymdeithas Eryri, rwyf i wedi dod i wybod llawer iawn am agweddau amrywiol gweithio mewn parc cenedlaethol fel hwn. Roeddwn i eisoes yn credu fod gen i ddealltwriaeth dda a rywogaethau ymledol a’u dull o ymledu. Fodd bynnag, rwyf i wedi dysgu llawer iawn trwy fentro allan i’r Parc a gweithio a chynorthwyo i liniaru effaith y rhywogaethau ymledol hyn. Roedd lledaeniad a chydnerthedd Ffromlys Chwarennog a Llysiau’r Dail yn dipyn o syndod i mi, yn ogystal â maint a graddfa plâu o Rododendron. Clirio Rhododendron oedd gorchwyl fy niwrnod gwaith cyntaf, ac fe wnes i ddysgu llawer iawn am effaith y rhywogaethau hyn yn sgil hynny. Yn ystod y diwrnod gwaith cyntaf hwn, a llawer o rai dilynol, rwyf i wedi datblygu llawer o sgiliau ymarferol na fyddwn ni wedi’u cael fel arall. Cyn hynny, nid oeddwn i wedi cael llawer o gyfle i drin a thrafod celfi, hyd yn oed celfi sylfaenol megis llifiau bwa a thocwyr.
Gallaf ddweud na fyddwn i, mae’n debyg, wedi cael cyfle i fynd i Eryri mor aml heb Gymdeithas Eryri, a heb y cludiant am ddim sydd ar gael i fynychu llawer o ddiwrnodau gwaith a digwyddiadau. Nid oes llawer o sefydliadau sy’n fodlon trefnu gwasanaethau rhad ac am ddim fel y rhain i wirfoddolwyr, felly gwerthfawrogir hynny’n fawr.”
Diolch o galon i Sarah a Jordan am yr amser maent wedi’i dreulio yn gwarchod Eryri. Mae’r ddau wedi gweithio’n galed yn cynnal a chadw llwybrau, clirio rhywogaethau ymledol, casglu sbwriel a rheoli cynefinoedd!