Pam byddaf yn troi llygad dall i sbwriel

Ar daith siopa i’r dre’n ddiweddar ’nes i basio tomen gas o sbwriel wedi ei gollwng wrth ymyl bin sbwriel. Er fy nghywilydd, nes i gerdded o’i chwmpas hi. Troiais lygad dall arni a theimlais yn ofnadwy am ’wneud.

Be’ ’naeth fy atal rhag pigo’r sbwriel i fyny a’i roi yn y bin?

Mae na amrywiaeth digalon o boteli plastig, bagiau creision, papurau bwyd cyflym a chaniau diod wedi’u gollwn o ein hamgylch ni. A mae’n ffiaidd gennym. Felly pa seicoleg sy’n ein stopio rhag ei godi i fyny a’i binio fe? Embaras i fod yn wahanol? Pryder am ddal clefyd? Nid fy nghyfrifoldeb yw hi – dylai’r cyngor ei glirio? Mae’r bin eisoes yn llawn? Os dwi’n dechrau, lle na i stopio?

Rydym yn derbyn sbwriel

Mae maint y broblem sbwriel ar hyn o bryd yn frawychus, yn bendant. Yn anffodus, mae sbwriel yn denu mwy o sbwriel a phob tro y byddem yn ei anwybyddu ’rydym yn  rhoi’r neges fod sbwriel yn dderbyniol. Ar ol toriadau arfaethedig gyllideb y cyngor mae’n debyg i waethygu. Ond os nad oes digon ohonom yn penderfynu i oddef iddo – yn ein stryd; ar ein hoff daith gerdded – efallai y gallwn ni droi’r juggernaut sbwriel o gwmpas!

Felly, beth oedd fy atal rhag rhoi’r sbwriel ’na yn y bin? Llawn neu beidio, ar ôl myfyrio, ofn tynnu sylw ataf i fy hun oedd y prif reswm. Rwyf yn dal i deimlo’n gywilydd am droi llygad dall arno, ond y gwir yw mod i ddim yn anwybyddu sbwriel i gyd. Byddaf yn codi ac ailgylchu caniau diod alwminiwm, oherwydd yr ‘ynni’ sydd ynyn nhw. (Mae ailgylchu un can alwminiwm yn arbed digon o ynni i ferwi dŵr am 14 panad.)

Yn teimlo mwy hyderus o ganlyniad fy her codi caniau, CodiCanArbedCarbon, rwyf wedi penderfynu codi sbwriel yn rheolaidd yn fy stryd fi, ac os wyf yn gweld sbwriel gwrth ymyl bin, byddaf yn ei godi a’i roi i mewn.

Fel arall, rwyf am barhau i droi llygad dall ar y rhan fwyaf o sbwriel arall. Mae fy her CodiCanArbedCarbon yn ymwneud yn benodol â chodi ac ailgylchu caniau alwminiwm er mwyn arbed allyriadau CO2. Am y tro, dyna fy flaenoriaeth.

A ydych yn arwr sbwriel?

Wrth gwrs mae llawer o bobl eisoes yn codi sbwriel. A ydych yn un ohonynt? Hoffwn glywed eich stori. Lle ydych chi’n dechrau a stopio? Pa ymateb ydych chi’n ei gael? Unrhyw gyngor i rywun arall sy am wneud yr un fath?

Dyma rai o’r arwyr sbwriel leol rwy’n gwybod amdanynt:

  • Casglwyr sbwriel Cymdeithas Eryri sy’n cadw’r Wyddfa’n lân
  • RAW Adventures sy’n arwain tîm clirio sbwriel ym mhob Gwir Her y 3 Copa
  • Caru ein Llyn sy’n codi sbwriel oddi o gwmpas Llyn Padarn
  • Geoffrey sy’n clirio sbwriel bob dydd yn Bontnewydd, gyda ei gi, Joe
  • Cadwch Gymru’n Daclus
  • Carys, Beryl a Sue sy’n codi sbwriel o’r stryd ger eu cartrefi
  • y casglwr sbwriel dirgel sy wedi gadael 57 o ganiau diod ar fy stepan drws.

Os ydych am ddechrau casglu sbwriel, cysylltwch â menter Trefi Taclus bydd yn gallu cyflenwi offer casglu sbwriel.

Codwch o â balchder!

Diolch am ddarllen.
Frances

 

Comments are closed.