Diolch anferth i dîm Her Mynydd Dyffryn Conwy Fabian4 am drefnu digwyddiad gwych sy wedi codi dros £1,300 at waith Cymdeithas Eryri.
Hefyd, cododd Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold, £367 o noddion gyda ei dîm, yn gwneud cyfanswm o dros £1,667!
Mae John yn ddiolchgar iawn i aelodau ei dîm, Andy Tickle (aelod Cymdeithas Eryri a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Peak District) sy wedi cwblhau’r rhan caiac, ac Alice Jewer am ei hymdrech rhagorol yn yr adran beicio mynydd.
Mae John yn dweud am y diwrnod (ar 13 Medi), “Yr oeddwn wedi gwneud digon o hyfforddiant i fwynhau cymryd rhan yn yr adran rhedeg, ac eithrio yr allt ddiwethaf – erbyn hynny roedd nghoesau’n crynu fel jeli! Roedd hi’n ddiwrnod bendigedig, diolch i fy nhîm, y tywydd delfrydol, y trefnwyr, a’r marsialiaid a roddodd gymaint o amser i sicrhau bod popeth yn mynd yn rhywdd. Roedd na awyrgylch hyfryd, lleol, cyfeillgar ar y digwyddiad.”
Felly, diolch yn fawr i bawb sy wedi noddi John, wedi cymryd rhan, neu wedi helpu allan ar y diwrnod.
Ewch i wefan Fabian4 Dyffryn Conwy Mountain Challenge i weld y canlyniadau a lluniau.