A ddylwn i roi fy sbwriel mewn bin?

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ymweld ag Eryri yn barchus ac ni fydden nhw byth yn meddwl taflu sbwriel. Ond, mae ychydig o bobl, yn anffodus, yn cael effaith negyddol fawr. Gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos lluniau o sbwriel yn difetha mannau hardd, cyn bo hir daw’r alwad am fwy o finiau.

Disgwylir biniau mewn trefi a dinasoedd lle mae mwy o adnoddau ar gael fel arfer ar gyfer eu gwagio’n rheolaidd ac ailgylchu a gwaredu’r sbwriel. Mae’r disgwyliad hwnnw, o’i drosglwyddo i fynyddoedd, llynnoedd a chymoedd Eryri, yn creu problem ynddo’i hun.

I sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Eryri mae angen i ni i gyd newid ein disgwyliadau a bod yn barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol.

Felly, os ydym yn mynd i sicrhau cynnydd tuag at Eryri di-sbwriel, mae dadl gref am lai o finiau yn hytrach na mwy. Mae biniau’n caniatáu i bobl deimlo eu bod wedi bod yn gyfrifol; ond os yw eu sbwriel newydd lenwi’r gofod olaf yn y bin, beth sy’n digwydd pan ddaw’r unigolyn nesaf heibio? Pe bai pawb yn mynd â’u sbwriel adref efo nhw, byddai’r broblem hon yn peidio â bodoli.

Mae gan Eryri arwynebedd tir o dros 2000km². Dyna lawer iawn o finiau, a byddai angen llawer o bobl i’w gwagio, awr ar ôl awr, un dydd ar ôl y llall, yn enwedig mewn lleoliadau nad ydyn nhw’n hawdd eu cyrraedd. Yn syml dydy hyn ddim yn ymarferol na’n gynaliadwy.

Pe bai pawb yn dod â bag ar gyfer eu sbwriel ac yn mynd ag o adref efo nhw i’w ailgylchu bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Dros haf 2020, mae gwirfoddolwyr wedi treulio pob penwythnos yn codi sbwriel wrth wneud eu rhan i gadw Eryri yn arbennig. Cofiwch eu helpu; paratowch cyn dod draw ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Felly, meddyliwch yn ofalus cyn rhoi eich sbwriel yn y bin!

Comments are closed.