Bywyd newydd: blychau ffôn gwledig
Unwaith eto mae un darn arall o isadeiledd cymuned wledig, sef y blwch ffôn cyfarwydd yng Ngharrog, Dyffryn Conwy, o dan fygythiad o gael ei symud gan BT.
Saif y ffôn talu ar gyffordd ffordd islaw gwaundir enfawr y Migneint lle nad oes dim signal ffôn, neu ychydig iawn. O ganlyniad, mae’r blwch ffôn yn fan cyfathrebu pwysig i’r sawl sydd mewn angen.
Mae’r gymuned leol wedi brwydro gyda BT sawl gwaith dros y degawdau diwethaf i sicrhau bod y ffôn yn y blwch yn gweithio rhag ofn i ddamwain neu argyfwng ddigwydd, o ystyried bod llawer o yrwyr ceir, cerddwyr, beicwyr a masnachwyr yn gyrru trwy’r ardal.
Yn ddiweddar, anfonodd dau aelod tymor hir o Gymdeithas Eryri, Paul a Susan Newby, Cwm Penmachno, eu gwrthwynebiad i fwriad BT i ddatgomisiynu blwch ffôn Carrog i adran gynllunio’r Parc Cenedlaethol. Meddai Paul:
“Rydym wedi bod drwy’r broses hon sawl gwaith yn ystod y 57 mlynedd diwethaf, yn fwyaf diweddar yn 2009 a 2004, pan wrthwynebodd y gymuned leol – ynghyd â Chyngor Conwy – yn llwyddiannus i gynnig BT i ddymchwel y ciosg. Dyma wasanaeth hanfodol i’r gymuned leol.”
Yn ôl Adran Gyhoeddus y BT dydy’r ffôn talu ddim yn cael digon o ddefnydd i gyfiawnhau parhau i’w gynnal. Mae’r gymuned leol yn gwrthod hyn, ac yn dweud y byddai’r ffôn yn cael ei ddefnyddio pa na bai peiriannwyr y BT yn anwybyddu adroddiadau bod nam ar y ffôn ac felly nad ydy hi’n bosib ei ddefnyddio am wythnosau ar y tro.
Meddai Paul: “Dyma ran o drafodaeth ehangach am ddiffyg nodedig mewn signal ffôn symudol ar unrhyw rwydwaith yng Nghwm Penmachno ac am filltiroedd o amgylch yr ardal.”
Mae’r ddadl am flwch ffôn Carrog yn cynrychioli tyndra rhwng anghenion y sawl sy’n byw mewn cymunedau gwledig a’r cwtogi ar wasanaethau hanfodol a weithredir o ddinasoedd ymhell i ffwrdd.
Mae Cymdeithas Eryri yn diolch i Paul a Susan am amlygu’r mater yma ac am frwydro i gadw yr hyn sydd bellach yn ddarn hanesyddol o isadeiledd gweithredol yn y fan dawel hon. Byddwn yn ysgrifennu i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn gofyn iddyn nhw wrthwynebu datgomisiynu’r blwch ffôn, a phwyso ar BT i sicrhau ei fod yn gweithio.