Lansio ymgyrch ‘Eryri, ond yn well fyth’ er mwyn atal sbwriel

Lansio ymgyrch ‘Eryri, ond yn well fyth’ er mwyn atal sbwriel

 Wrth i bobl yn eu lluoedd ddychwelyd i Eryri mae Cymdeithas Eryri a’i phartneriaid yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i fynd ag Eryri gam yn nes at fod yn Barc Cenedlaethol heb sbwriel.

Wrth gydweithio gyda Phartneriaeth y Wyddfa ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, nod ymgyrch newydd yr elusen gadwraeth yw gadael i bobl wybod am y materion, annog newid ac ysbrydoli pobl fel eu bod yn dod yma efo’r bwriad o adael dim byd ar eu holau.

Mae’r cylch cyntaf yma o negeseua yn cynnwys cyfres o 15 o negeseuon ar-lein ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r enghreifftiau cyntaf yn trafod croen ffrwythau, poteli plastig, a phacedi creision. Mae eraill yn cynnwys negeseuon i helpu pobl i osgoi gorfod ‘mynd’ yn y mynyddoedd.

Meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri:

“Dydy sbwriel ddim yn anochel. Mae Eryri heb sbwriel yn bosib.

 Mae’n amlwg y byddai Eryri heb sbwriel yn well profiad i bawb – preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ond mi fyddai Eryri heb sbwriel hefyd yn arbed arian, canlyniad lle byddai pawb ar eu hennill. Mae’r arbedion o ran costau arian ac amser staff pe bai pawb yn mynd â’u sbwriel gartref yn sylweddol, o ystyried y pwysau difrifol ar hyn o bryd ar yr awdurdodau, elusennau, tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud eu gorau glas i warchod Eryri.

Mae yna lu o broblemau anodd, megis trafnidiaeth a pharcio, lle bydd angen gwario arian mawr ar adeiladwaith mewnol a chostau gweithredu er mwyn sicrhau atebion tymor hir. Mae sbwriel yn wahanol. Mae’r atebion i sbwriel yn ein dwylo ni – mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae.

 Mae sbwriel, yn llythrennol, yn ein dwylo ni.

 Pwy fyddai’n meddwl ei bod yn iawn agor eu drws a dod o hyd i sbwriel wedi ei adael ar riniog eu drws? Wel, neb, wrth gwrs. Dyna pam yr ydym yn credu bod pawb yn alluog i ddeall pam fod hyn yn bwysig ac yn gallu bod yn ofalus. Ein her yw trosglwyddo’r ymwybyddiaeth yma i bobl mewn ffyrdd sy’n gweithio. Felly does dim angen i sbwriel fod yn un o’r ‘problemau anodd’ yma. Os bydd pobl yn gollwng sbwriel, fyddan nhw ddim wedi meddwl am y peth, neu ddim yn rhagweld y canlyniadau na pham ei fod yn bwysig. Felly mae trosglwyddo’r negeseuon iawn mewn ffyrdd sy’n ddealladwy i bobl yn gallu gwneud gwir wahaniaeth. Dyna fyrdwn ein hymgyrch.

 Rydym yn gofyn i bawb helpu drwy ledaenu’r negeseuon yma ar-lein. Dyma gam cyntaf project i rannu problem sbwriel yn rhannau priodol – gan graffu a chanolbwyntio ar gwahanol fathau o sbwriel a throsglwyddo negeseuon wedi eu targedu. 

 Gyda’n gilydd gallwn gymryd camau tuag at sicrhau Eryri heb sbwriel – yr Eryri sy’n hoff gennym ni, ond yn well fyth.”

 Mae Cymdeithas Eryri yn cefnogi ac yn dathlu gwaith pawb sy’n helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon, yn cynnwys:

  • Unigolion, yr arwyr sy’n treulio amser yn casglu sbwriel yn y mannau sy’n hoff ganddyn nhw
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, CBS Conwy a Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Tirfeddianwyr – ffermwyr ac elusennau sy’n berchen ar dir megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Coed Cadw
  • Grwpiau codi sbwriel lleol – fel Casglwyr Bethesda, Llanberis Taclus a llawer mwy
  • Cadw Cymru’n Daclus, sy’n cefnogi llawer o grwpiau lleol ledled Cymru.

Am ymholiadau pellach – cysylltwch â John Harold director@snowdonia-society.org.uk

Comments are closed.