Dr John Disley CBE, 1928 – 2016

Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth Dr John Disley, cyn-lywydd ac yn gyfaill agos a chefnogwr brwd Cymdeithas Eryri.

Cafodd John Disley ei eni yng Nghorris yn 1928. Yr oedd yn athletwr o fri, a chyd-sylfaenydd Marathon Llundain bu’n Llywydd Cymdeithas Eryri am 10 mlynedd. Cymerodd y fedal efydd yn y ras ffos a pherth 3000m yn Gemau Olympaidd Helsinki, yn 1952, ac yn cael ei ddyfynnu yn dweud ei fod wedi cychwyn ar rasio ffos a pherth oherwydd mai mynydda oedd ei gariad cyntaf ac nid oedd yn dda iawn am redeg ar y gwastad!

Daeth yn brif hyfforddwr cyntaf yn y Ganolfan Fynydda Genedlaethol ym Mhlas-y-Brenin; yn y fan yna ddoth i adnabod Esmé Kirby, sefydlydd Cymdeithas Eryri. Parhaodd diddordeb John mewn dringo ar hyd ei oes; torrodd y record am croesi copaon 3,000 Cymru, ac yr oedd hefyd yn un o’r gwarchodfeydd ar gyfer tîm Prydain a dringodd Everest yn 1953.

Bu John yn berchen i fwthyn yn ei annwyl Eryri ac yn gefnogwr cadarn o’r Gymdeithas a’i gwaith am nifer o flynyddoedd, cyn ddod yn Llywydd yn 2003. Mae dyled enfawr ar Gymdeithas eryri i John. Hoffem ymestyn ein cydymdeimladau i’w wraig Sylvia, yn gyn-enillydd medal Olympaidd, a’i ddwy ferch.

Delwedd: Dr John Disley (ail ar y dde), yn agoriad swyddogol mainc goffa Esmé Kirby.

Comments are closed.