Cyfle Swydd: Gweinyddwr Digwyddiadau a Gwirfoddolwyr

Elusen gadwraeth Eryri yw Cymdeithas Eryri ac mae hi’n gweithio i warchod rhinweddau arbennig yr ardal ers 1967.

Oriau: 30 awr yr wythnos gyda thymor penodol hyd diwedd Mai 2022. Potensial i ymestyn y cytundeb ar gyfer yr ymgeisydd priodol.

Graddfa tâl£9.50 yr awr (Gwir Gyflog Byw)

Lleoliad: Gweithio’n bennaf o adref

Dyddiad cau’r cais: 09:00 dydd Iau 18 Tachwedd

Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mercher 24 Tachwedd

Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib

 

Disgrifiad swydd:

Os hoffech ddatblygu ystod o fedrau digidol a swyddfa wrth helpu i warchod yr amgylchedd, yna efallai mai dyma’r swydd i chi.

Byddwch yn datblygu ystod eang o fedrau gweinyddol a digidol, a fydd yn eich helpu i sicrhau cynnydd yn eich gyrfa.

Byddwch yn datblygu medrau mewn:

  • darparu cynnwys digidol drwy gyfrwng ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol
  • defnyddio meddalwedd cronfa ddata ar gyfer gweinyddu gwirfoddolwyr a digwyddiadau
  • sicrhau gweinyddu digwyddiadau a gweithgareddau gwirfoddolwyr yn ddi-drafferth
  • cyfathrebu effeithiol gyda gwirfoddolwyr, mynychwyr digwyddiadau a chyrff sy’n bartneriaid.

Byddwch yn cyfrannu at brojectau sy’n gwarchod ac yn gwella Eryri, ac yn cefnogi staff mewn meysydd eraill o waith, gweithgareddau a digwyddiadau Cymdeithas Eryri

Hanfodol

Rhoir hyfforddiant llawn, ond bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • yn berchen ar wybodaeth weithiol dda o Dechnoleg Gwybodaeth yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol
  • yn dangos gallu i ddysgu medrau TG newydd yn sydyn ac yn effeithiol
  • yn gallu ysgogi ei hun, yn ymrwymedig, yn drefnus ac yn ddibynadwy
  • yn gyfathrebwr da

Mae angen hyblygrwydd oherwydd mae gweithgareddau’n digwydd ar benwythnosau yn ogystal â dyddiau gwaith, ac efallai y bydd angen gweithio gyda’r nos. Fodd bynnag mae’r hyblygrwydd yn bodoli er budd yr elusen a’r cyflogedig a chyn belled â’ch bod yn ateb gofynion y Gymdeithas, byddwn yn eich cefnogi i gynllunio fel bod eich gwaith a’ch ymrwymiadau eraill yn cyd-weddu.

Mae medrau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Buddion gweithio i Gymdeithas Eryri – rydym yn cynnig:

  • Cyflog cychwynnol Gwir Gyflog Byw
  • Cyfraniad pensiwn o 6% gan y cyflogwr
  • Rydym yn gweithredu gweithio hyblyg ac elfen o ymddiriedaeth
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau’r banc (pro rata)
  • Termau gyda gwelliannau ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, ac absenoldeb rhieni wedi ei rannu, yn unol â hyd gwasanaeth cymwys.
  • Rydym yn annog ac yn cefnogi pawb sy’n gyflogedig i chwilio am gyfleoedd ar gyfer datblygiad.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â John Harold ar director@snowdonia-society.org.uk.

Sylwer: rydym yn derbyn ceisiadau a gwblheir wrth lenwi ein Ffurflen Gais Safonol yn unig

Comments are closed.