Cyfle Swydd: Swyddog Cadwraeth

Swyddog Cadwraeth
Rhan amser –
22.5 awr (3 diwrnod) yr wythnos
Cyflog
 £17,563 pro rata

Contract tymor sefydlog 1 flwyddyn i ddechrau, fel rhan o raglen cadwraeth ymarferol barhaus.

CEFNDIR

Mae Cymdeithas Eryri yn elusen gadwraeth sy’n gweithio’n ddygn i warchod a gwella Eryri.  Bydd y Gymdeithas yn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol ac yn ymgyrchu i amddiffyn rhinweddau arbennig yr ardal, ac mae’n berchen ar Tŷ Hyll, adeilad eiconig sydd â gardd bywyd gwyllt a choetir hyfryd.

Mae’r Gymdeithas yn rhedeg rhaglen wirfoddoli cadwraeth sylweddol o’r enw Dwylo Diwyd.  Mae gweithgareddau cadwraeth ymarferol yn cynnwys rheoli cynefinoedd, gwaith cynnal a chadw llwybrau, casglu sbwriel a mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol.

Rydym ni wrthi’n recriwtio Swyddog Cadwraeth i ymuno â’n tîm  cadwraeth presennol i ddatblygu’r prosiect.  Bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb beunyddiol am amrywiaeth o ddyddiau gwaith cadwraeth a gweithgareddau hyfforddiant, a bydd yn:

  • recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr
  • datblygu a darparu cyfleoedd i wirfoddoli
  • datblygu a darparu cyfleoedd hyfforddiant
  • cynnal perthnasoedd rhagorol â phartneriaid presennol a datblygu rhai newydd.

Mae’r gweithgareddau hyfforddiant yn amrywiol ac maent yn cynnwys ein hyfforddiant achrededig mewnol ar gyfer gwirfoddolwyr.  Ar hyn o bryd, rydym ni’n cynnig uned o’r enw Sgiliau Cadwraeth Ymarferol a achredir gan Agored Cymru.  Bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb am arwain sesiynau hyfforddiant a dyddiau gwaith cyfranogwyr, a bydd yn gyfrifol am asesu gwaith cyfranogwyr yn y maes ac yng ngweithlyfrau’r cwrs.  Darperir hyfforddiant llawn ynghylch asesu hyfforddeion.

Mae holl staff Cymdeithas Eryri yn rhan o dîm.  Byddant yn cyfrannu mewn sawl ffordd at waith ehangach yr elusen ac at y dasg allweddol o recriwtio aelodau a gwirfoddolwyr newydd.

Mae’r swydd hon yn swydd ran amser, 22.5 awr yr wythnos.  Bydd angen hyblygrwydd o ran dyddiau gwaith.  Bydd angen gweithio ar benwythnosau a gyda’r hwyr, a chaniateir amser o’r gwaith yn lle hynny.

MANYLEB PERSON

Hanfodol:

  • Profiad o gynllunio a chynnal dyddiau gwaith cadwraeth ymarferol
  • Profiad o weinyddu digwyddiadau ymarferol, yn cynnwys cyhoeddusrwydd, archebion, cyfieithiadau, cofnodion Iechyd a Diogelwch, ac asesu risgiau
  • Gwybodaeth ymarferol am reoli cefn gwlad a gwarchod natur
  • Profiad o gydweithio ag amrywiaeth o wirfoddolwyr a’u cymell
  • Profiad o gydweithio a chysylltu â sefydliadau eraill
  • Cryf ei gymhelliant ac yn gallu datrys problemau
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Gallu defnyddio Word, Excel a PowerPoint yn fedrus, a diweddaru gwefannau a chyfryngau cymdeithasol.
  • Trwydded yrru gyfredol, ei gerbyd ei hun, ac yswiriant defnydd busnes – bydd y gwaith yn digwydd ledled Eryri a bydd angen cludo offer llaw i leoliadau’r gwaith. Ad-delir milltiredd ac eithrio am deithio i’r swyddfa.
  • Brwdfrydedd dros gadwraeth a gwybodaeth am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt sydd i’w canfod yn Eryri.

Dymunol:

  • Profiad o reoli darpariaeth dysgu neu hyfforddiant achrededig
  • Profiad o godi arian a recriwtio aelodau mewn sefydliad dielw;

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Gyfrifoldebau:

  • Nodi a datblygu cyfleoedd am ddyddiau gwaith a’u gweithgareddau.
  • Cydlynu ar y cyd â staff eraill i lunio rhaglenni gweithgarwch a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt.
  • Trafod â phartneriaid i sicrhau fod y dyddiau gwaith a’r digwyddiadau yn rhedeg yn ddidrafferth.
  • Goruchwylio ac arwain dyddiau gwaith gwirfoddol, yn cynnwys trefnu i ddod ag offer, deunyddiau a chelfi i’r safle.
  • Asesu gwirfoddolwyr sy’n cwblhau hyfforddiant achrededig.
  • Rhoi rheolaeth y goedlan ar waith yn Nhŷ Hyll, gan weithio gyda gwirfoddolwyr ac arbenigwyr lleol.
  • Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli eraill yn Nhŷ Hyll.
  • Cynnal cofnodion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau o risgiau gweithgareddau
  • Mynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr newydd a hyrwyddo aelodaeth o’r Gymdeithas
  • Cynorthwyo ein gwirfoddolwyr, gan ymateb i ymholiadau a darparu gwybodaeth
  • Cynnal cofnodion ynghylch gwirfoddolwyr ar gyfer cronfa ddata’r Gymdeithas
  • Cynorthwyo Rheolwr y Prosiect ag agweddau eraill o Waith y Prosiect yn ôl y galw
  • Cynorthwyo ag agweddau eraill o waith y Gymdeithas pan fydd angen hynny
  • Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc o dan 18 oed ac oedolion a all fod yn fregus ac mewn perygl o risg. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus dderbyn gwiriad DBS estynedig boddhaol (gyda thystiolaeth o danysgrifiad i’r Gwasanaeth Ddiweddaru neu wrth wneud cais ar adeg cael cynnig y swydd.).

SUT I WNEUD CAIS

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, ffoniwch John Harold (Cyfarwyddwr) ar 01286 685498.

Daliwch sylw: gallwn dderbyn ceisiadau a lunnir gan ddefnyddio ein Ffurflen Gais safonol yn unig.  Ni ystyrir ceisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng CV.

Dychwelwch y ffurflen – trwy e-bost, yn ddelfrydol – at john@snowdonia-society.org.uk, neu gallwch ei phostio at:

John Harold, Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Gwynedd, LL55 3NR.

Dyddiad cau: 12:00 hanner dyddDydd Mawrth 16 Gorffennaf

Cyfweliadau: 30 Gorffennaf

Caiff ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer eu hysbysu erbyn: 22 Gorffennaf

Dyddiad cychwyn arfaethedig: mis Awst

 

 

Comments are closed.