I’n gwirfoddolwyr “croeso’n ôl” – Diolch!

Croesawu pobl yn ôl i Eryri

Drwy gydol y mis diwethaf mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i drefnu dyddiau gwirfoddoli er mwyn cynorthwyo gyda chroesawu pobl yn ôl i Eryri.

Ar 23 Mawrth cyhoeddwyd y clo mawr ledled y DU ac o fewn ychydig ddyddiau newidiodd Parc Cenedlaethol Eryri o fod yn fan prysur i lecyn tawel. O ganlyniad i’r rheoliadau llym yng Nghymru roedd hyd yn oed y bobl oedd yn byw’n lleol yn cael eu cyfyngu i bellter o 5 milltir o’u cartrefi a doedd dim modd crwydro’r mynyddoedd. Aeth yr wythnosau’n fisoedd gan arwain at synnwyr o normal newydd yn y parc. Roedd y ffyrdd yn wag, y cilfannau a’r llwybrau yn lân, a gwelwyd bywyd gwyllt yn ffynnu mewn mannau newydd.

Er gwaethaf y cyfnod hwn roedd yn anochel na fyddai’r sefyllfa hon yn parhau. Mae pobl yn rhan o Eryri; nid yn unig y 25,000 sy’n byw yma ond hefyd y sawl sy’n ymweld â’r ardal. Yn wir, un o bwrpasau parciau cenedlaethol y DU yw “hyrwyddo cyfleoedd er dealltwriaeth a mwynhad o’r rhinweddau arbennig’ gan y cyhoedd. Mae parciau cenedlaethol yn darparu buddion lu i iechyd a lles pobl ac mae ymwelwyr â’r parc yn darparu ffynhonnell o incwm ar gyfer busnesau lleol. Mae’r clo mawr wedi amlygu sut mae ymwelwyr yn effeithio ar Eryri mewn modd positif a negyddol.

Y gwirfoddolwyr “croeso’n ol”

Wrth baratoi ar gyfer dychweliad nifer fawr o ymwelwyr galwodd y bartneriaeth am wirfoddolwyr i helpu gyda chroesawu pobl yn ôl i Eryri. Byddai’r tîm yma o wirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r cynllun wardeniaid gwirfoddol lle gwelir unigolion profiadol yn darparu presenoldeb ar y Wyddfa.

Byddai’r gwirfoddolwyr “croeso’n ôl” yn darparu presenoldeb yn rhai o ardaloedd mwyaf poblogaidd Eryri. Rhoir y dyddiau gwirfoddolwyr ar waith pob wythnos o ddydd Gwener hyd ddydd Sul gan sicrhau gwirfoddolwyr i ymweld â mannau allweddol penodol yn cynnwys meysydd parcio allweddol o amgylch troed y Wyddfa (Nant Peris, Bethania, Rhyd-ddu a Chwellyn), llwybr Llanberis ac Ogwen.

Rôl y gwirfoddolwyr fyddai darparu cyngor ac arweiniad i’r sawl sy’n ymweld â’r ardal, yn cynnwys gwybodaeth ar lwybrau a chludiant. Hefyd, fe fyddan nhw’n sicrhau bod ymwelwyr yn ymddwyn yn gyfrifol yn yr ardal yn ystod cyfnod o bryder mawr yn dilyn llacio rheoliadau’r corona feirws. Byddai’r gwirfoddolwyr hefyd yn gyfrifol am reoli sbwriel.

Roedd y cynllun yn hynod boblogaidd a chafwyd ymateb gan lu o bobl a oedd yn awyddus i gymryd rhan. Yn anffodus, roedd llawer mwy o ymgeiswyr nag oedd o leoedd ar gael. Dymuniad y bartneriaeth oedd gwneud yn fawr o frwdfrydedd pobl a oedd yn fodlon rhoi eu hamser i warchod Eryri ond cadw’r niferoedd yn ddigon isel i sicrhau bod y dyddiau’n cael eu gweithredu’n ddiogel.

Be ddigwyddodd ar y dyddiau?

Ar 6 Gorffennaf daeth y cyfyngiad o 5-milltir i ben gan alluogi pobl i deithio i mewn i Eryri unwaith eto. Yn yr wythnosau canlynol bu’r gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol gyda rheoli’r parc cenedlaethol.

Ar y dechrau ni ddaeth lawer o ymwelwyr yn ôl i’r parc, o bosib oherwydd pryderon parhaol ynglŷn â bygythiad y feirws. Roedd y niferoedd wedi eu heffeithio hefyd o bosib gan y ffaith fod safleoedd gwersylla yn dal ar gau. Yn yr wythnosau canlynol newidiodd hyn a dechreuodd mwy o bobl ymweld â’r parc. Roedd hyn yn arbennig o wir ar benwythnos heulog yr 17eg lle gwelwyd problemau unwaith eto ym Mhen-y-pas pan barciodd cerbydau yn anghyfreithlon ar hyd ochr y ffordd. Mewn ymateb, gwnaed penderfyniad radical i gau maes parcio Pen-y-pas ar benwythnosau.

Drwyddo draw, mae’r ymateb gan ymwelwyr a phobl leol wedi bod yn bositif, ac mae pobl wedi gwerthfawrogi ymdrechion y gwirfoddolwyr, yn enwedig o safbwynt rheoli sbwriel.

Un pryder cynyddol yw’r diffyg paratoi cyn ymweld ag Eryri ac yn enwedig y Wyddfa. Fe all hyn fod mor syml â pheidio gwisgo’n briodol ar gyfer cerdded y Wyddfa neu beidio trefnu lle i aros ymlaen llaw. O ganlyniad, mae’r tîm gwirfoddoli wedi gweld amryw o ymwelwyr yn gwersylla mewn mannau anaddas gan fod llawer o feysydd gwersylla’n dal wedi cau. Mae hyn yn cynnwys gwersylla ar dir preifat lle gwelir yn glir arwyddion “dim gwersylla” a gwersylla’n agos at lwybrau troed. Yn aml gwelir problemau cysylltiedig megis tanau agored a sbwriel.

Yn anffodus, mae sbwriel yn parhau i fod yn broblem yn Eryri yn dilyn y clo mawr. Mae hyn wedi amrywio o bobl yn taflu unedau cegin i bobl yn gwaredu eitemau llai eraill megis hancesi papur budr, baw ci mewn bag a chroen banana. Amcan y Gymdeithas yw nid yn unig rheoli sbwriel wrth ei gasglu ond hefyd i fynd I’r afael â gwraidd y broblem drwy godi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl.

Casglwyd dros 160 bag o sbwriel ers rhoi’r cynllun hwn ar waith hyd yma!

Un o’r straeon am lwyddiant y project yw’r gwirfoddolwyr eu hunain sydd wedi bod yn grŵp ymroddedig. Yn eu mysg mae pobl leol sy’n byw yn yr ardal, unigolion sy’n gwneud bywoliaeth yn y parc a rhai o du allan yr ardal sy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i ardal y maen nhw wedi mwynhau treulio amser ynddi.

Beth nesaf?

Mae heriau’n parhau a bydd y cynllun gwirfoddoli “croeso’n ôl” yn parhau dros benwythnosau drwy gydol fis Awst, gan ddarparu gwybodaeth a rheoli sbwriel. Gobaith Cymdeithas Eryri yw gallu ehangu’r dyddiau “croeso’n ôl” gyda dyddiau gwirfoddoli pellach yn y misoedd i ddod.

Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan yn y project hwn am gyfrannu cymaint i’r Parc Cenedlaethol. Mae’r unigolion anhunanol hyn yn rhoi eu hamser i helpu ym mha ffordd y gallant. Sbariwch funud i feddwl am y gwirfoddolwyr hyn tro nesaf byddwch yn mentro i fynnu’r Wyddfa. 

Troediwch yn ysgafn/Byddwch ddiogel/Byddwch garedig

Comments are closed.