Risg diangen i blanhigion prin a chynefinoedd Ffos Anoddun

Cynllun hydro-electrig yn risg diangen i blanhigion prin a chynefinoedd Ffos Anoddun

Mae Cymdeithas Eryri wedi cyflwyno ei hymateb i gais cynllunio (NP4/26/323) i ddatblygu cynllun hydro-electrig 5MW yn Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun, ger Betws y Coed yn Eryri.  Byddai’r datblygiad yn golygu adeiladu cored uwchlaw Rhaeadr y Graig Lwyd, twnnel 1km trwy’r graig, dros 1km o lein beipiau wedi’i gladdu, pwerdy wedi’i gladdu a newidiadau i ffordd yr A470 (T) ger Gwesty Fair Glen, Betws y Coed.

Dywed John Harold, Cyfarwyddwr y Gymdeithas:

‘Mae Cymdeithas Eryri yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y lle iawn, ond mae’r datblygiad hwn yn destun pryder.  Yn ein hymateb, rydym wedi amlygu pryderon go iawn ynghylch yr effeithiau ar gymunedau lleol, busnesau a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Modurwyr, cerddwyr, trigolion lleol a busnesau lleol fyddai’n goddef y rhan fwyaf o’r aflonyddwch yn ystod y cam adeiladu.  Bydd gan y datblygiad effeithiau tymor byr a thymor hir ar y dirwedd, mynediad ac ecoleg, yn ogystal ag effeithiau ar grwpiau o ddefnyddwyr hamdden megis pysgotwyr a chaiacwyr.

Ar  y llaw arall, mae’r prosiect yn cynnig buddion cymedrol o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ond yn ystod oes y prosiect, prin iawn iawn fyddai’r buddion o ran cyflogaeth. Mae Eryri yn cynhyrchu tair gwaith mwy o ynni na’r hyn a ddefnyddir yno; mae’r Parc Cenedlaethol yn cyfrannu’n helaeth iawn o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Ond ein pryder mwyaf yw’r ffaith fod safle’r datblygiad arfaethedig yn cynnal cynefinoedd bywyd gwyllt o bwys cenedlaethol ac amrywiaeth helaeth o rywogaethau prin.  Yn benodol, canfyddir y planhigion prin mewn ceunentydd afonydd coediog a gwlyb diferol yn unig.

Mae llefydd o’r fath yn arbennig i Eryri ac ucheldiroedd gorllewin yr Alban – y rhain yw ein coedwigoedd glaw ni.
Mae Ffos Anoddun yn safle cadwraeth o bwys cenedlaethol, ac mae ymhlith y 10 safle pwysicaf yng Nghymru lle ceir y planhigion ceunentydd hyn, ac mae wedi’i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei gyflwr dilychwin.  O’r herwydd, mae’r llecyn hardd poblogaidd hwn yn fwy na dim ond lle hardd, mae’n safle hollbwysig o ran cyflawni dibenion cadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r planhigion arbennig yn Ffos Anoddun yn dibynnu ar leithder, llif a sblash yr afon. Byddai cymryd sawl metr ciwbig o ddŵr fesul eiliad o’r afon a’i anfon i lawr lein beipiau yn newid yr amgylchedd lleol, ac efallai byddwn yn colli rhan o gymeriad arbennig Ffos Anoddun.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud fod y tebygolrwydd o niwed i’r fflora ‘bron iawn yn amhosib ei feintoli’.  Mae Cymdeithas Eryri yn credu nad yw’n werth mentro’r risg hwnnw.

Darllenwch ein  ymateb llawn.

Comments are closed.