Jac-y-neidiwr: mynd i’r afael â’r broblem binc.

Efallai na fyddwch wedi clywed am jac-y-neidiwr o’r blaen, ond rydw i’n siŵr y byddwch wedi ei weld. Mae’n tyfu ledled Eryri ond i’w weld ran amlaf ar lannau afonydd a llynnoedd neu mewn caeau a dolydd llaith.

Wedi i chi ei weld unwaith mae’n eithaf hawdd ei adnabod gyda’i flodau ar ffurf ‘helmed’, dail main, a choesyn coch. Mae jac-y-neidiwr yn blanhigyn blynyddol, sy’n golygu ei fod yn tyfu nes bydd yn aeddfed, yn atgynhyrchu ac yn marw mewn o fewn blwyddyn. Fe welwch y planhigyn yn egino rhwng mis Chwefror ac Ebrill, yna mae’r dail yn tyfu’n gyflym hyd canol yr haf; erbyn hynny mae’n bosib y byddan nhw’n dair metr o daldra. Dyma felly blanhigyn blynyddol talaf y DU. Erbyn mis Mehefin maen nhw’n dechrau blodeuo, sy’n galluogi iddyn nhw gael eu peillio cyn cynhyrchu eu codau hadau. Rhwng misoedd Gorffennaf a Hydref fe all planhigyn unigol gynhyrchu hyd at 800 o hadau, sy’n cael eu saethu hyd at 7 metr i ffwrdd wrth i’r codau hadau ffrwydro. Mae’r hadau yma’n cwympo i’r ddaear ond hefyd yn cyrraedd nentydd ac afonydd, gan deithio i lawr yr afon i egino mewn mannau newydd. Bydd y planhigion yna’n marw wedi mis Hydref, gan adael eu hadau yn y ddaear yn barod i egino y mis Chwefror canlynol.

Pam fod jac-y-neidiwr yn gymaint o broblem yn Eryri a’r DU?

Mae jac-y-neidiwr yn rhywogaeth ymledol sy’n niweidiol i’r ecoleg; fe’i cyflwynwyd gan bobl oes Victoria fel planhigyn gardd addurniadol. Mae ei lwyddiant, ei raddfa tyfu cyflym a’i ddull o daenu hadau ymhell yn golygu ei fod wedi sefydlu ei hun a lledaenu ledled cefn gwlad gwledydd Prydain. Fel y soniwyd eisoes, mae jac-y-neidiwr yn tyfu’n hynod o gyflym sy’n golygu ei fod yn gryfach na rhywogaethau brodorol ac yn taflu cysgod drostyn nhw. Mae jac-y-neidiwr hefyd yn ffynhonnell dda o neithdar, felly mae’n well gan wenyn yn aml alw heibio’r jac-y-neidiwr na rhywogaethau brodorol. Mae llai o beillio, a’r cysgodi planhigion brodorol, yn lleihau amrywiaeth planhigion sy’n tyfu ar lannau’r afonydd, llynnoedd a dolydd a effeithir. Efallai bod y lleihad mewn amrywiaeth ac amlder planhigion brodorol yn effeithio ar systemau naturiol a sefydlogrwydd ecosystemau bregus Eryri. Mae gan ei allu i arglwyddiaethu ar blanhigion brodorol ganlyniadau pellach ar lannau afonydd: unwaith mae’r jac-y-neidiwr wedi marw’n ôl yn y gaeaf mae’r glannau’n foel ac heb unrhyw blanhigion brodorol a’u systemau gwreiddiau, sy’n gallu peri i’r pridd gael ei erydu.

Dod i afael â’r problem

Mae sawl dull yn bosib i reoli jac-y-neidiwr, ond bydd Cymdeithas Eryri yn ei glirio drwy ei godi a’i ddadwreiddio o’r ddaear – yn ffodus, gwreiddiau bas iawn sydd ganddo felly mae’n eithaf hawdd ei dynnu â llaw. Yna gosodir y planhigion mewn twmpath a’u gadael i bydru ar y safle. Dydyn ni byth yn clirio’r planhigion sydd wedi eu codi o’r safle oherwydd fe all hyn daenu hadau i leoliadau eraill. Rydym yn dechrau tynnu jac-y-neidiwr ym mis Ebrill neu Fai ac yn parhau i’w glirio nes byddan nhw’n dechrau hadu. Byddwn yn ymweld â phob safle sawl gwaith yn ystod y tymor i sicrhau ein bod yn trin y cwbl.

Byddwn hefyd yn dechrau tynnu’r jac-y-neidiwr cyn belled i fyny’r afon â phosibl: yn aml mae jac-y-neidiwr yn ymledu i lawr yr afon gan ddefnyddio llif y dŵr i gludo’r hadau – sy’n golygu ei bod yn hawdd i’r planhigyn ymledu i lawr yr afon ond nid i fyny’r afon. Wrth weithio’n systemataidd i lawr yr afon mae’n fwy tebygol felly na fydd jac-y-neidiwr wedyn yn gallu ailsefydlu ar y rhannu wedi eu clirio.

Eleni byddwn yn gweithio fel rhan o bartneriaeth tirlun y Carneddau i leihau nifer y jac-y-neidiwr yn ardal y Carneddau. Wrth ddefnyddio gwybodaeth leol, basau data cofnodi bywyd gwyllt a’n harolygon ein hunain mae gennym well gwybodaeth o le y dylem ni dargedu clirio jac-y-neidiwr o’r Carneddau. Mae gennym orchwyl fawr o’n blaenau i’w glirio o’r ardal hon, ond wrth gydweithio gyda grwpiau eraill fel ‘Malwyr Jac-y-neidiwr Tregarth’ a ‘Chyfeillion y Ddaear Cymru’, rhown gynnig da arni!

Bydd angen cymaint o gymorth â phosib arnom gan wirfoddolwyr ledled Eryri i allu rheoli’r jac-y-neidiwr. Mae hi bob amser yn ddiwrnod o hwyl yn yr haul; cewch gyfarfod pobl tebyg i chi, sydd â chariad tuag at fywyd gwyllt a’r awyr agored. Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o greu cysylltiadau lleol a gweithio mewn mannau hyfryd na fyddech fel arall yn ymweld â nhw.

Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddyddiau gwirfoddoli jac-y-neidiwr, yna nodwch eich diddordeb ar ein system arwyddo i wirfoddolwyr My Impact. Hefyd, gallwch gyfrannu at y frwydr yn erbyn y blodyn pinc drwy nodi unrhyw leiniau o jac-y-neidiwr a welwch ar fap rhywogaethau ymledol cofnod. Dyma ddull o logio a mapio unrhyw rywogaethau ymledol a welwch. Y cwbl sydd raid i chi ei wneud yw nodi’r cyfeirnod grid a’i deipio ar ein gwefan.

Comments are closed.