Dysgu am plygu gwrychoedd

Gan Molly Isherwood, Cynorthwyydd Cadwraeth

Roeddwn yn bendant yn teimlo’n eithaf petrus wrth i mi yrru i fy niwrnod cyntaf o wirfoddoli efo Cymdeithas Eryri, a’m dyddiad cychwyn swyddogol yn nesáu. A fyddwn yn gwneud argraff dda? Yn ffodus, cefais groeso cynnes gan Peri a’r holl wirfoddolwyr oedd wedi dod draw i ddysgu’r grefft draddodiadol o blygu gwrych. Roedd llawer o wynebau eraill yno hefyd, gyda digwyddiad yn ne’r Parc yn denu pobl o ardal leol y Dyfi, ac ymhellach. Heddiw, byddem yn cael ein dysgu gan Joseph, ffermwr defaid lleol sydd wedi bod yn plygu gwrych yn broffesiynol ers yn ifanc iawn.

O ganlyniad i ddiffyg gweithwyr a chyflwyniad peirianwaith newydd aeth technegau plygu gwrych traddodiadol allan o ffasiwn a defnyddid dulliau cyflymach a rhatach fel gosod ffensys pyst a weiran. Yn ffodus, mae symud mawr i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a gwybodaeth am blygu gwrych er mwyn cadw’r crefft yn fyw. Mae arddulliau lleol gwahanol niferus o blygu gwrych, pob un yn ychwanegu at nodweddion unigryw pob ardal. Mae plygu gwrych hefyd yn ffordd wych o reoli ein gwrychoedd yn briodol ar ran bywyd gwyllt. Mae gwrychoedd brodorol yn darparu coridor hanfodol i rywogaethau ac yn cysylltu darnau o gynefinoedd ledled Eryri a’r tirlun ehangach a fyddai fel arall o bosib mewn perygl o golli rhywogaethau lleol.

Roedd Joseph yn athro gwych, a llwyddodd pob un ohonom i roi cynnig ar blygu rhan o’r gwrych. Cawsom ein dysgu gan Joseph bod gwrych bob amser yn cael ei blygu i fyny llethr, gan fod hyn yn dilyn llif y sudd sy’n cynnal bywyd y planhigyn. Mae hi’n anhygoel sut y gall gwrych oroesi hyd yn oed efo’r mymryn lleiaf o’r prif fonyn ar ôl, i’ch galluogi i’w blygu i mewn i’r gwrych. Roedd rhaid bod yn ofalus iawn erbyn hyn, gan fod angen i chi adael digon i’r bonyn oroesi, ond nid mor drwchus fel y byddai’n torri wrth ei blygu.

Fel gyda llawer o bethau eraill, mae ymarfer yn hanfodol ac, er fy mod yn amau bod unrhyw un ohonom heblaw Joseph wedi cerdded o’r digwyddiad gyda statws plygu gwrych proffesiynol, fe ddysgodd pob un ohonom rhywbeth newydd ac roeddem wedi gwneud ein rhan i sicrhau goroesiad y ffurf hon o gelf cefn gwlad. Roedd yn ffordd wych o dreulio amser yn yr awyr agored a mwynhau rhywfaint o haul y gaeaf yn ein hardal leol hardd tra ar yr un pryd yn cyfarfod pobl gyda diddordebau tebyg.

Mae’n hynod o bwysig ein bod yn gwarchod y medr trawiadol hwn sy’n rhan o’n treftadaeth, ac rydw i mor ddiolchgar i Joseph a Chymdeithas Eryri am drefnu diwrnod llawn gwybodaeth a mwynhad!

Comments are closed.