“Cyfle i roi cynnig arni, ennill medrau a chyfarfod ffrindiau newydd”

Sue Loughran oedd un o’r gwirfoddolwyr a fynychodd uned Medrau Cadwraeth Ymarferol Cymdeithas Eryri yng ngwanwyn 2019. Isod cawn fwy o’i hanes a’i phrofiad.

Roeddwn wrth fy modd pan gefais fy newis i gymryd rhan yn y cwrs Medrau Cadwraeth Ymarferol eleni. Mae arna’i angen sicrhau fod fy medrau yn gyfredol, ac roedd hon yn ffordd wych o gymryd rhan mewn sesiynau cadwraeth yn ddiogel a gyda’r wybodaeth briodol. Rydw i’n eithaf newydd i’r sector cadwraeth, a bob amser yn chwilio am ddulliau o wella fy CV. Yn ogystal â’r dymuniad i roi rhywbeth yn ôl i Barc Cenedlaethol Eryri, dyma oedd fy ysgogiad dros ddewis treulio pedwar diwrnod ar gwrs.

Roedd digon o gyfle i ddewis o ystod eang o fedrau ymarferol (megis plannu coed, medrau coedlan, difa Rhododendron, agor ffosydd, gofalu am offer, medrau gwaith coed ayyb) dros gyfnod eithaf eang o amser, ac ystod o ddyddiau.

Arweinydd pob sesiwn oedd un ai Owain neu Dan, yn aml ar y cyd â phobl o gyrff perthnasol eraill sy’n bartneriaid (ee Coed Cadw). Roedd angen i ni ddewis lleiafswm o 4 sesiwn (roedd y sesiwn gyntaf yn orfodol) a chwblhau log wythnosol yn edrych yn ôl ar yr hyn a ddysgwyd gynnon ni.

Dysgais beth wmbredd ar bob sesiwn; medrau ymarferol gwell a mwy cyfredol, gwell ganolbwyntio wrth ysgrifennu asesiadau risg, trefnu a chynllunio agweddau o’r sesiynau (ee sgyrsiau am ddiogelwch wrth ddefnyddio offer) ac mi wnes i gyfarfod â phobl newydd gwych, a chael llawer o hwyl yn eu cwmni!

Teimlaf bod y cwrs yma’n bendant wedi codi fy hyder yn fy medrau fy hun, a bydd yn gymorth i mi dderbyn mwy o gyfrifoldeb dros drefnu partïon gwaith cadwraeth mewn amrywiaeth o leoliadau.

Felly diolch yn fawr iawn i Owain, Dan, Mary-Kate a Chymdeithas Eryri am roi’r cyfle gwych hwn i mi… Ac, i unrhyw un sy’n darllen hwn, byddwn yn eich annog i wneud yr un fath. Rhowch gynnig arni, magwch fedrau, gwnewch ffrindiau newydd a mwynhewch ddyddiau gwych yn ein Parc Cenedlaethol hyfryd! Mi fyddwch yn siŵr o deimlo’n dda wedi ei gwblhau!

Os hoffech gymryd rhan mewn hyfforddiant achrededig yn y dyfodol, arwyddwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn gwybod y diweddaraf. Byddwn yn derbyn pobl ar ein huned medrau cadwraeth ymarferol yn ddiweddarach eleni ac hefyd yn cynnig hyfforddiant achrededig mewn cynnal a chadw llwybrau.

Comments are closed.