Cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri i gynllun uchelgeisiol ar gyfer y Carneddau.

Cyhoeddwyd heddiw fod Partneriaeth Tirwedd y Carneddau wedi derbyn cymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer grant o £1.92m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) drwy ei rhaglen Partneriaeth Tirwedd.

Nod y prosiect 7 mlynedd, a arweinir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mewn Partneriaeth agos â nifer o sefydliadau eraill, yw cyd-lynnu a rheoli’n rhagweithiol y dtreftadaeth naturiol, ddiwylliannol, gyfoethog ond bregus mynyddoedd y Carneddau. Bydd cydweithio agos â pherchnogion tir, ffermwyr, trigolion, busnesau lleol, defnyddwyr hamdden ac unrhyw sefydliad neu gymdeithas â diddordeb yn yr ardal, yn ganolog i’r cynllun.

O Ddwygyfylchi a Phenmaenmawr i’r gogledd, i Ddyffryn Conwy yn y dwyrain, o Gapel Curig yn y de, i Fethesda a Dyffryn Ogwen yn y gorllewin, bydd y cynllun yn ymgysylltu â  chymunedau a chymdeithasau lleol ynghyd â sefydliadau sydd â diddordeb yn hanes, amaethyddiaeth, iaith, bywyd gwyllt, economi, archaeoleg a chyfleoedd hamddena yn yr ardal.

Bydd y cynllun yn cael ei weithredu dros ardal o 210 km sgwâr, sy’n cynnwys Carnedd Llywelyn fel ei gopa uchaf, 100 o Henebion Cofrestredig, 2000 o safleoedd archaeolegol pwysig, ac mae’r rhan fwyaf o amgylchedd naturiol yr ardal â statws gwarchodedig. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwarchod hwn, mae treftadaeth y Carneddau mewn perygl. Mae archaeoleg bwysig dan fygythiad o ganlyniad i ymosodiadau gan brysgwydd, mae ecoleg arbennig y ffridd mewn perygl o ganlyniad i batrymau newidiol a difrifol o ddefnydd tir, mae enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu colli,  difrodwyd carneddi o’r Oes Efydd, mae effaith stoc ac ymwelwyr wedi effeithio’n ddifrifol ar gynefinoedd prin pwysig, mae poblogaeth llinos y mynydd wedi dirywio, mae angen cymryd camau i atal colli mwy o garbon o’r mawndir ac mae dyfodol merlod unigryw y Carneddau angen ei ddiogelu. Drwy gydweithio effeithiol â phartneriaid, bydd y modd mynd i’r afael â’r materion hyn, ynghyd â nifer o faterion eraill, er mwyn gwarchod y dirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Defnydd Tir yr Awdurdod,

“Rydym wrth ein boddau  o dderbyn y newyddion am gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac rydym yn teimlo gwir gyffro o gael gweithio ar gynllun mor bwysig fydd o fudd enfawr i gymunedau lleol, a threftadaeth naturiol a diwylliannol y mynyddoedd. Nid am un sefydliad unigol mae’r cynllun hwn. Mae’n cynrychioli gwir bartneriaeth sy’n teimlo’n angerddol am wella gyda’n gilydd ein rheolaeth a’n dealltwriaeth o’r dirwedd arbennig hon. Rydym hefyn yn teimlo’n gyffrous oherwydd y cyfle i weithio gyda rhychwant mor eang o bobl drwy ddigwyddiadau, mentrau dehongli ac addysg, ac ar yr un pryd, yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl i wirfoddoli a gwerthfawrogi’r lle hardd hwn.”

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru,

“Mae arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn gweithio’n galed i sicrhau fod pob elfen o’n treftadaeth bwysig yn cael ei warchod – ac nid yw hynny’n golygu hen adeiladau crand, cestyll ac amgueddfeydd yn unig. Mae treftadaeth naturiol o’n cwmpas ymhob man, yn enwedig yng Nghymru, ac mae’n hollbwysig i’r economi, i greu swyddi ac mae’n llesol.

“Y prosiect gwych hwn yw’r diweddaraf i elwa o arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a fydd yn ail gysylltu pobl â threftadaeth gudd yn eu hardal a hefyd diogelu’r amgylchedd hynny am flynyddoedd i ddod.”

Rhoddir grant datblygu o £198,700 gan GDL i bartneriaeth dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddatblygu ei gynlluniau ac i ymgeisio am gymeradwyaeth terfynol o grant llawn o £1,918,200 maes o law.

Comments are closed.