Gwneud eich rhan fach o adra

Oherwydd haint y coronafeirws bu’n rhaid gohirio ein dyddiau gwirfoddoli yma yn Eryri ond daw amser y byddwn yn gallu dychwelyd i’r mynyddoedd, bryniau, coedwigoedd, traethau a chorsydd. Hyd y daw’r amser hwnnw, gallwn i gyd gyfrannu yn ein ffordd ein hunain tuag at gadwraeth yn ein hardaloedd.

I lawer ohonon ni, mae’r cyfnod ynysu wedi rhoi mwy o amser rhydd nad ydym wedi arfer ag o, ac mae llawer wedi dewis treulio’r amser yma yn llecynnau gwyrdd ein cymunedau lleol. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gychwyn y cyfnod ynysu lle’r oedd mynd am dro, rhedeg neu feicio bob dydd yn rhywbeth i’w drysori. Cawsom amser i sylwi ar y pethau sydd yn aml ar goll yn ein bywydau prysur, gwrando ar alwad y gog a gweld y blodau’n blodeuo o’n cwmpas.

Efallai eich bod yn ddiweddar wedi dysgu o’r newydd i werthfawrogi’r hyn sydd ar riniog eich drws, wedi darganfod llwybrau newydd a sylwi mwy ar ryfeddod byd natur o’ch cwmpas. Gellir elwa o’r ymwybyddiaeth newydd yma o’r hyn sydd o’n cwmpas. Gallwn ddod yn warchodwyr ein cymunedau lleol ein hunain. Wedi’r cwbl, does neb yn adnabod ardal yn well na’r bobl sy’n byw yno.

Er nad yw cynnal a chadw llwybrau’r mynydd yn rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo fo’r eiliad hon, mae sawl peth gwirfoddol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw. Un gweithgaredd gwirfoddol y buasem fel arfer yn ei gynnal yr adeg hon o’r flwyddyn yw rheoli’r rhywogaeth ymledol jac-y-neidiwr. Mae’r planhigyn hwn yn prysur lenwi ein ffosydd a’n nentydd ac yn gwasgaru’n gyflym i’n cymunedau ehangach.

Efallai eich bod wedi sylwi eisoes bod y planhigyn hwn yn tyfu yn eich cymuned leol, a’ch bod wedi ei weld ar eich taith ddyddiol. Mae’n hawdd tynnu’r planhigyn hwn o’r ddaear o ganlyniad i’w wreiddiau bas ac fe alla’i tynnu am ychydig funudau y dydd wneud gwahaniaeth mawr. Bydd y planhigyn hwn yn llawer mwy amlwg yn yr wythnosau i ddod wrth iddo ddechrau blodeuo’n binc llachar ac mae ganddo arogl melys cryf. Cewch hyd i fwy o fanylion am jac-y-neidiwr ar ein gwefan. Mae’n bwysig nodi fod os yw’r planhigyn yn tyfu ar dir preifat bydd angen caniatâd gan y tirfeddiannwr cyn gallu ei dynnu.

Gweithgaredd arall y buasem yn ei wneud fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn yw mapio neu gofnodi blodau a chreaduriaid, a gallwch chi wneud hynny hefyd! Efallai eich bod wedi clywed am rywogaethau’n cael eu gweld lle nad ydyn nhw wedi eu gweld ers blynyddoedd lawer. Yn wir, un enghraifft leol yw’r nifer cynyddol o wiwerod coch sy’n cael eu gweld yn ardaloedd gogledd Gwynedd.

Fe all nodi’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol fod yn wirioneddol werthfawr o ran casglu data. Gydag enghraifft y rhywogaeth ymledol jac-y-neidiwr mae’n ein galluogi i gynllunio sut i reoli’r ymlediad yn seiliedig ar ei dosbarthiad. Y cwbl sydd ei angen i anfon data i Ganolfan Cofnodi Gogledd Cymru – Cofnod yw ffotograff a chyfeirnod grid.

Edrychwn ymlaen at yr adeg y gallwch unwaith eto ymuno â ni ar ein dyddiau gwirfoddoli. Hyd hynny, byddwch ddiogel.

Comments are closed.