Gwirfoddolwyr yn rhoi help llaw

Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi bod yn helpu i gadw Eryri yn arbennig a hyd yma, maen nhw wedi cyfrannu 524 o oriau yn 2019! Maen nhw wedi gweithio’n galed i blannu coed, cynnal llwybrau troed a chlirio rhywogaethau ymledol. Maen nhw wedi mentro allan ym mhob tywydd, glaw, cenllysg neu hindda – yn llythrennol!

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan eleni, mae eich help yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Os hoffech gymryd rhan, ewch i fwrw golwg ar y dyddiau gwirfoddoli sydd gennym ar y gweill neu cysylltwch â Dan neu Owain am ragor o wybodaeth.

Comments are closed.