Gwirfoddolwyr yn wynebu tywydd garw’r gaeaf!

Mae’n amlwg fod gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn dathlu ein hanner canmlwyddiant yn briodol iawn! Ym mis Ionawr, fe wnaethant gwblhau dros 200 awr o waith i warchod Eryri! Dyna gychwyn gwych i’r flwyddyn i brosiectau gwirfoddoli Cymdeithas Eryri. Llongyfarchiadau i bawb – gwaith gwych!

Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr fentro allan yn heulwen (a glaw!) y gaeaf i glirio rhododendron, cynnal llwybrau troed, gweithio mewn coetiroedd, garddio er lles bywyd gwyllt yn Tŷ Hyll a phrysgoedio gwern.

Cynnal a chadw llwybr – Lôn Gwyrfai

Fe wnaethom ni gydweithio â’r canlynol ym mis Ionawr:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Yr Ymddiriedolaeth Coedlannau
  • Myfyrwyr o Goleg Menai

Roedd Ionawr yn gychwyn cyffrous i’r flwyddyn wrth i ni dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr cyntaf ein huned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol (Diolch i Rodd Eryri â Chyfoeth Naturiol Cymru am y cyllid.). Mae ein 8 cyfranogwr cyntaf wedi cael eu dewis, a bydd rhagor o fanylion am eu profiad yn cael ei gynnwys yn ein diweddariad nesaf.

Diolch o galon i bawb sydd eisoes wedi gwirfoddoli gyda ni yn 2017 – os nad ydych chi wedi rhoi cynnig ar hynny eto, beth am ymuno ag un o’n diwrnodau gwaith yn y dyfodol agos?  Bydd croeso i bawb!

 

 

Comments are closed.