Diwrnodau gwaith gwirfoddol Gorffennaf

Helo Bawb,

Dyma ein dyddiau gwaith gwirfoddol a gynhelir ym mis Gorffennaf 2015.

4/7, 15/7, 23/7, 29/7, Brwydro Jac y Neidiwr – Y Bala: Mae’r tymor tynnu Jac y Neidiwr wedi cychwyn! Mae Jac y Neidiwr yn blanhigyn ymwthiol, estron. Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu. Mae Jac y Neidiwr hefyd yn cynhyrchu symiau sylweddol o neithdar sy’n denu pryfed peillio oddi wrth blanhigion cynhenid. Rydym wedi bod yn gweithio gydag APCE yn ystod blynyddoedd diweddar ar raglen lwyddiannus iawn i reoli’r planhigyn hwn, sy’n golygu fod y planhigyn wedi diflannu o rai mannau ble’r oedd yn bla yn flaenorol. Byddwn yn tynnu’r planhigyn hwn â llaw (mae’n hawdd iawn ei lacio) ac yn targedu’r llednentydd sy’n bwydo Llyn Tegid.

7/7, Arolwg o Glymog Japan – Betws y Coed: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn llwyddiannus â chais i dreialu a datblygu ap newydd i wneud arolygon fel rhan o brosiect ledled Ewrop o’r enw Cobweb i helpu i wneud arolygon o Glymog Japan. Enw cod yr ardal y byddant yn ei gwmpasu yn yr arolwg yw Biosffer Dyfi. Un o’r ardaloedd sy’n cael ei arolygu yw Afon Conwy. Mae Cymdeithas Eryri wedi gofyn i ni dreialu’r ap symudol trwy fapio Clymog Japan ar hyd glannau afon Conwy. Dewch i’n cynorthwyo â’ch llygaid barcud a dysgwch pam fod Clymog Japan yn cael ei ystyried yn rhywogaeth ymwthiol.

10/7: Diwrnod Dyfrdwy, Yr Ymosodiad, y Bala

Yn dilyn llwyddiant diwrnod blynyddol glanhau Afon Dyfrdwy, a drefnir gan bartneriaid sy’n gweithio ar Afon Dyfrdwy, cynhelir digwyddiad eleni i frwydro planhigion ac anifeiliaid ymwthiol estron, megis Clymog Japan,  Jac y Neidiwr a’r Cranc Manegog Tsieineaidd. Yn y digwyddiad cydgysylltiedig yma mi fyddym ni’n reoli’r ymosodwyr estron hyn ar draws dalgylch Afon Dyfrdwy, o darddiad yr afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri i’w haber. Bydd y digwyddiad yn cynnwys partneriaethau rhwng sefydliad yng Nghymru a Lloegr i gynnwys holl ddalgylch Afon Dyfrdwy, a byddwn yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Llyn Tegid, gan gydategu’r rhaglen waith sydd eisoes wedi’i chychwyn yno. Dilynir y digwyddiad hwn gan farbeciw yn y prynhawn, a drefnir gan APCE.

10/07 Cludiant am ddim ar gael. Cyffordd Llandudno, Bangor a Chaernarfon

18/7,Brwydro Jac y Neidiwr, Antur Waunfawr

Trwy gydol misoedd yr haf, byddwn yn taclo safle newydd ger glannau Afon Gwyrfai i reoli Jac y Neidiwr.  Dyma safle o ddiddordeb gwyddonol penodol sydd wedi’i amlygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel safle blaenoriaethol!  Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu. Mae Jac y Neidiwr hefyd yn cynhyrchu symiau sylweddol o neithdar sy’n denu pryfed peillio oddi wrth blanhigion cynhenid.

Er mwyn parhau ein gwaith o 2014, cynhelir y diwrnod gwaith yn Antur Waunfawr

21/7, Arolwg o Lygod y Dŵr – Y Bala: Byddwn yn cydweithio ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddysgu sut i wneud arolygon o lygod y dŵr. Nid oes digon o gofnodion o lygod y dŵr, ac rydym yn awyddus i sicrhau fod cymaint ohonoch ag y bo modd yn gwybod pa arwyddion y dylid cadw golwg amdanynt. Byddwn yn ymweld â llecyn ger un o lednentydd Afon Tryweryn, ble mae Bill Taylor (APCE) wedi canfod digonedd o arwyddion o lygod y dŵr – felly mae’n safle delfrydol i ddysgu beth i’w chwilio amdano. Os byddwn yn ffodus, efallai y gwnawn ganfod a chofnodi tystiolaeth o ddyfrgwn hefyd. Dyma ddiwrnod delfrydol i wirfoddolwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad o wneud arolygon o lygod y dŵr – ond mae croeso i unrhyw hen law ddod draw i ymweld â’r safle diddorol hon.

Cludiant am ddim ar gael. Cyffordd Llandudno, Bangor a Chaernarfon

 

23/7 Y Twndra yn Nghymru – Byd Hynod Rhostiroedd Uwchdirol a Mynyddig Eryri

23 Gorffennaf, sgwrs gyda’r hwyr gan John Harold

Canolfan Cadwraeth Pensychnant – dewch i fwynhau te/coffi enwog a Bara Brith blasus Julian!

Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon.

Mae’n debyg eich bod chi wedi cerdded trwyddynt neu sathru arnynt. Ond mae’r cynefinoedd hyn yn fwy cymhleth na’r argraff gyntaf a geir.Dewch i ddysgu rhagor am oreosi ar y copaon.

Bydd y sgwrs eglurhaol yn edrych ar ecoleg rhostiroedd i fyny fry yn ein mynyddoedd, y planhigion a’r anifeiliaid arbennig, y prosesau naturiol, a’r dylanwadu dynol sy’n llunio. Cyflwyniad ysbrydolgar i gynefinoedd pwysig Eryri.

Cludiant am ddim ar gael. Bangor a Chaernarfon

Tŷ Hyll: Gardd Bywyd Gwyllt, pob Dydd Llun: Cyfle i helpu gynnal yr ardd a choetir brydferth yn Nhŷ Hyll.

Cysylltwch os gwelwch yn dda ag owain@snowdonia-society.org.uk neu ffoniwch 01286 685498 am fwy o wybodaeth ac i gadarnhau eich bwriad i fynychu unrhyw ddigwyddiad. 

Diolch yn fawr, Owain

Comments are closed.