Gwenyn yn y Goedwig!

Cwch gwenyn

Mae grŵp o wirfoddolwyr yn cwrdd yn Nhŷ Hyll bob mis i gyflawni amryw o tasgau yn y coetir. Y mis hwn, roedd hi’n amser rhoi’r siwt gwenyn arno a chymryd cip olwg y tu mewn i’r cychod gwenyn …

Bob dydd Mawrth olaf y mis fe gasglwn yn Nhŷ Hyll i gyflawni amryw o dasgau rheoli coetiroedd. Mae’r rhain yn wahanol bob mis ac yn y gorffennol wedi cynnwys; trwsio llwybrau troed, hollti a thorri logiau i’r storfa goed , cael gwared â rhywogaethau ymledol, prysgoedi a chynnal y pwll bywyd gwyllt. Fodd bynnag , roedd y mis hwn ychydig yn wahanol! Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd a’r haul yn tywynnu (er i ni gael mymryn o law hefyd) roedd hi’n ddiwrnod perffaith i wirio sut mae ein gwenyn yn ei wneud ! Ar ôl rhoi ar y siwt, paratoi’r ysmygwr a chasglu ein hoffer cwch gwenyn, mi aethom am dro i’r goedwig!

Cymerwch olwg ar y fideo isod i rannu’r profiad!

Bee Room at Tŷ Hyll

Ystafell Addysg yn Ty Hyll

Yn anffodus, roedd y gaeaf gwlyb a gwyntog wedi profi i fod yn un anodd iawn i’r gwenyn, ac yr ydym yn awr i lawr i un gytref yn Dŷ Hyll. Fodd bynnag, gyda digon o epil a dwy gytref ar y ffordd, rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn gadarnhaol y bydd y gwenyn yn cael blwyddyn hapus a llwyddiannus!

Pam poeni am wenyn?

Mae’r gwenyn, yn ogystal a amryw o beillwyr eraill yn chwarae rhan hanfodol yn natur; maent yn peillio cnydau i gynhyrchu’r bwyd rydym yn ei fwyta. Yn anffodus, o ganlyniad clefyd, colli cynefin a defnyddio pryfleiddiaid a chwynladdwyr, mae gwenyn mêl a pheillwyr eraill o dan fygythiad. Yma yn Dŷ Hyll, yr ydym yn gwneud ein gorau i gefnogi peillwyr! Mae gennym ardd bywyd gwyllt ysblennydd sy’n llawn neithdar cyfoethog a digonedd o blanhigion sy’n addas ar gyfer peillwyr, rydym wedi adeiladu pentyrrau cynefinoedd a ‘gwestai’ peillwyr, mae yno ‘ystafell gwenyn’ addysgol sy’n addas ar gyfer plant a diolch i rai unigolion brwdfrydig o’n tîm o wirfoddolwyr a staff, rydym hyd yn oed yn gwerthu hadau a phlanhigion! (Mae’r rhain ar gael o Dŷ Hyll, neu gallwch ymweld â’n dudalen Hadau er mwyn Gwenyn)

Os hoffech chi gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan – Cysylltwch â Bethan. Gallwch anfon e-bost ataf yn bethan@snowdonia-society.org.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01286 685498

Diolch i Phil Layton am lunio y ffilm fer hon o’r dydd – Mwynhewch!

Comments are closed.