Gwasanaeth bws Betws-y-Coed – Conwy’n dod i ben

Mae Cyngor Conwy’n gwahodd teithwyr sy’n defnyddio gwasanaeth bws 19 i anfon sylwadau am y gwasanaeth presennol a’u gofynion i cludiantcyhoeddus@conwy.gov.ukNeu ysgrifennwch at: Adain Cludiant Cyhoeddus, Gwasanaeth Datblygu Cymunedol, Adeilad y Llyfrgell, Stryd Mostyn, Llandudno, LL30 2RP.

11/02/16 – Gwasanaeth Bws Rhif 19 yn dod i ben

Mae Bysiau Arriva Cymru wedi rhoi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y bydd Gwasanaeth Bws 19 sy’n gweithredu’n fasnachol rhwng Betws y Coed a Chonwy, yn dod i ben ar 1 Mai, 2016.

Mae Bysiau Arriva Cymru wedi rhoi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y bydd Gwasanaeth Bws 19 sy’n gweithredu’n fasnachol rhwng Betws y Coed a Chonwy, yn dod i ben ar 1 Mai, 2016 oherwydd nad yw’r gwasanaeth yn perfformio cystal ag roedd Arriva wedi rhagweld.

O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, bydd y gwasanaeth min nos, sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol hyd yn hyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, hefyd yn dod i ben ar ei ffurf bresennol.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ystyried opsiynau ar gyfer y llwybr hwn: gan edrych yn fanwl ar nifer y teithwyr; patrymau teithio, cynaliadwyedd a sefydlogrwydd yn y tymor hir.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am drafnidiaeth gyhoeddus, “Yn naturiol, rydym yn siomedig clywed nad yw’r fenter fasnachol hon gan Bysiau Arriva Cymru wedi cael ei ddefnyddio’n ddigon da. Mae’n bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr opsiynau i ddarparu gwasanaeth sefydlog a chynaliadwy ar gyfer llwybr 19.”

Mae’r Cyngor yn gwahodd teithwyr sy’n defnyddio gwasanaeth bws 19 i anfon sylwadau am y gwasanaeth presennol a’u gofynion i cludiantcyhoeddus@conwy.gov.uk

Neu ysgrifennwch at: Adain Cludiant Cyhoeddus, Gwasanaeth Datblygu Cymunedol, Adeilad y Llyfrgell, Stryd Mostyn, Llandudno, LL30 2RP.

Comments are closed.