Gwerthiannau planhigion a hadau Tŷ Hyll yn troi gwyrdd yn aur

Gwerthiannau planhigion a hadau Tŷ Hyll yn troi gwyrdd yn aur

Mae gwerthiannau trawiadol o hadau blodau gwyllt a phlanhigion o ardd Tŷ Hyll yn galluogi Cymdeithas Eryri i barhau i weithio ledled y Parc Cenedlaethol: yn trwsio llwybrau, clirio sbwriel, rheoli gwlyptir a llawer mwy.

Mae’r hadau yn cael eu casglu a’u prosesu â llaw gan wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn yr ardd flodau gwyllt yn yr eiddo sydd wedi ei restru fel un gradd II,

Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch i’r sawl sydd wedi cymryd rhan gyda chasglu a lluosogi hadau ar werth yn Nhŷ Hyll, gyda diolch arbennig i’r ymddiriedolwr Margaret Thomas sy’n cydlynu’r ymdrech. Hoffem hefyd ddiolch i’r sawl sydd wedi prynu’r hadau a’r planhigion dros y blynyddoedd ac wedi cefnogi Cymdeithas Eryri.

Gallwch gefnogi ein gwaith drwy bicio i mewn i Dŷ Hyll i brynu hadau a phlanhigion neu wrth archebu ein Hadau dros Wenyn ar-lein yma.

Comments are closed.