Gwibio Gwyrdd: Reid e-feiciau

Gwibio Gwyrdd: Reid e-feiciau

Diolch enfawr i Beics Ogwen, prosiect beicio cymunedol ym Methesda, a hwylusodd ein diwrnod beic trydan yn ddiweddar ar hyd Dyffryn Ffrancon. Teithiwyd ar hyd hanner olaf llwybr beicio Lôn Las Ogwen, o Fethesda i ben draw Dyffryn Ffrancon, yna cafwyd taith gerdded o amgylch Cwm Idwal.

Y criw wrth ymyl Llyn Idwal, wedi beicio a cherdded o Fethesda

Wedi ymarfer y tu allan i Ganolfan Cefnfaes, chwarae efo gosodiadau pŵer yr e-feiciau, a darganfod llawenydd yr hwb cryfaf sy’n eich galluogi i hedfan i fyny’r bryniau, roeddem yn barod i roi cynnig ar y daith. Nid oedd un oedd yn cymryd rhan wedi beicio ers dros trideg mlynedd, a diolch i’r mynediad y mae’r e-feic yn ei sicrhau, roedden nhw’n gallu cymryd rhan yn un o lwybrau beic harddaf Cymru, gyda’i droeon a’i lethrau i’w dringo.

Diolch enfawr i Beics Ogwen a Chanolfan Cefnfaes am eu cyfleusterau rhentu gwych, eu gwybodaeth a’u cefnogaeth wrth sicrhau llwyddiant y diwrnod hwn.

Gyda diolch i Raglen Cronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.

Comments are closed.