Grant Gwirfoddoli Cymru yn cefnogi Partneriaeth Caru Eryri

Diolch i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn unol â ‘Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru’, rydym ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer gwaith y tymor nesaf ar y rhaglen arloesol Caru Eryri. Ein huchelgais yw mai hwn fydd y tymor gorau eto, wrth wella profiadau pobl o Eryri a darparu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi di-rif o ansawdd uchel.

Wedi’r cyfnod clo, mae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn yr awyr agored ac yn mwynhau’r tirlun; wedi’r cwbl, dyma un o’r rhesymau pam y sefydlwyd Parciau Cenedlaethol yn wreiddiol. Fodd bynnag, gyda nifer cynyddol o bobl, daw mwy o bwysau ar yr ardal. Mae llwybrau poblogaidd yn erydu’n gynt ac mae angen mwy o adnoddau i leihau sbwriel. Mae angen gwell gwybodaeth ac arweiniad ar rai ymwelwyr i’w galluogi i wneud yn fawr o’u hamser yn Eryri a sicrhau bod eu hymweliadau mor gynaliadwy a pharchus â phosibl. Yn ôl ein profiad yn Eryri yn ystod y pandemig roedd angen ymateb mwy ac ehangach i bwysau ymwelwyr mewn lleoliadau poblogaidd – rhan allweddol o’r ymateb hwnnw yw Caru Eryri.

2022 yw’r drydedd flwyddyn o’r gwaith hwn sy’n esblygu. Ffurfiwyd partneriaeth gref ac effeithiol rhwng Cymdeithas Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored, gyda chefnogaeth nifer o arweinwyr gweithgareddau awyr agored proffesiynol lleol. Wrth ganolbwyntio ar ardaloedd fel yr Wyddfa, Ogwen a’r Bala, mae’r partneriaid yma wedi cydweithio â’n tîm o wirfoddolwyr gwych i drwsio llwybrau, codi sbwriel a darparu gwybodaeth allweddol ac arweiniad i ymwelwyr. Rydym wedi cefnogi’r gwaith hwn gydag ymgyrch negeseua gref wedi ei thargedu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi darparu gwybodaeth glir i filiynau o bobl i’w helpu i baratoi ar gyfer eu hamser yn Eryri. Mae’r negeseua yma yn trafod materion allweddol fel toiledau, biniau, sbwriel, cludiant a safleoedd gwersylla.

Datblygiad cyffrous eleni yw dechrau cydweithio gyda Pharciau Cenedlaethol ac AHNE eraill ledled Cymru, a rhannu profiadau a dysgu ac ysbrydoli mwy o weithio mewn partneriaeth ledled sectorau.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach am y rhan hon o’n gwaith, mae croeso i chi gysylltu gyda mary-kate@snowdonia-society.org.uk.

Yn y cyfamser, gwyliwch y gofod hwn am gyfleoedd i wirfoddolwyr yn y dyfodol gyda chynllun Caru Eryri 2022.

Gyda diolch i’n cyllidwyr:

                                

Comments are closed.