Newyddion da i dri o’n gwirfoddolwyr!

Yn ddiweddar, clywsom bod tri o’n gwirfoddolwyr wedi cael newyddion da; bellach mae ganddyn nhw swyddi ym maes cadwraeth! Mae Ruth a Tilda wedi dechrau gweithio fel wardeniaid yng Nghemlyn i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar Warchodfa Natur Cemlyn ar Ynys Môn, ac mae Sue wedi anelu tuag at wylltir yr Alban i fod yn warden ar St Kilda. Mae’r tair wedi gweithio’n ddygn wrth wirfoddoli – gyda Chymdeithas Eryri a chyrff eraill, ac rydym wrth ein bodd yn gallu eu llongyfarch ar eu llwyddiant.

Isod, mae’r tair yn sôn sut mae gwirfoddoli, a chwblhau ein hyfforddiant achrededig, wedi eu helpu nhw…

Dechreuodd Ruth wirfoddoli’n rheolaidd gyda Chymdeithas Eryri wedi iddi benderfynu bod angen dilyn trywydd newydd o ran ei gyrfa.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gyfarfod pobl yr un fath â chi, rhoi cynnig ar bethau newydd, dysgu medrau newydd a gwella eich CV. Wedi gwirfoddoli, cefais swydd fel warden Cemlyn i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru – dyna brawf ei fod yn gweithio!

Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i fod yn gweithio ar warchodfa mor hardd, ac rydw i rŵan yn gallu helpu eraill yn yr un ffordd gan fy mod yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr yma.

Mae gwirfoddoli wedi helpu fy mywyd proffesiynol ac hefyd wedi gwella tipyn ar fy nghyflwr meddyliol a’m golwg ar fywyd. Alla’i ddim ond cymeradwyo gwirfoddoli – rydw i wir yn credu y dylai pawb roi cynnig arno.”

Cwblhaodd Tilda swydd ar leoliad dros yr haf gyda Chymdeithas Eryri yn haf 2018 ac yma y cyfarfu â Ruth wrth wirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri. Mae’n wych eu bod wedi parhau ar eu taith gyda’i gilydd a bellach wedi dod yn gydweithwyr!

Mi wnes i gwblhau swydd ar leoliad 140-awr gyda Chymdeithas Eryri yr haf diwethaf, ac mi wnaeth hyn fy helpu i’m paratoi ar gyfer treulio pob diwrnod yn yr awyr agored! Fe’n helpodd hefyd i wella fy medrau cyfathrebu gydag aelodau o’r cyhoedd a’m cyd-gwirfoddolwyr, medr sy’n hanfodol ar gyfer ein swydd newydd.

Pe na bawn wedi gwirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri, fyddwn i ddim wedi cyfarfod Ruth a chael y profiadau anhygoel yr ydw i wedi bod yn ddigon ffodus i’w cael.”

Dechreuodd Sue wirfoddoli gyda Chymdeithas Eryri sawl blwyddyn yn ôl, pan oedd yn cwblhau ei MSc mewn cadwraeth a rheolaeth tir ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi wedi gweithio’n ddygn i fagu ystod o brofiadau ac mae ei gwaith wedi talu ar ei ganfed.
Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â gweithio ym maes cadwraeth, mae’n hanfodol eich bod yn gallu arddangos eich ymrwymiad drwy ddangos eich bod wedi gwneud gwaith gwirfoddol. Mae angen i chi allu dangos eich bod wedi gwneud rhywbeth gwahanol i bobl eraill. Rydw i wedi gwirfoddoli i sawl elusen, ac mae hyn wedi fy helpu mewn cyfweliadau, wrth orfod rhoi enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn neu senario. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r ymrwymiad ychwanegol hwnnw a phrofiad ymarferol gwerthfawr.”

Llongyfarchiadau enfawr i’r tri gwirfoddolwr yma – rydych yn llawn haeddu eich llwyddiant.

Os bydd eich profiad o wirfoddoli gyda ni wedi’ch helpu i gael swydd, gadewch i ni wybod, os gwelwch yn dda – rydym bob amser yn falch o gael newyddion da! Os hoffech roi cynnig ar wirfoddoli, cymerwch gipolwg ar ein dyddiau gwaith arfaethedig; mae’n wych bob amser gweld wynebau hen a newydd.

Comments are closed.